Cefnogwyr Wrecsam yn cyfaddef ymddygiad sarhaus
- Cyhoeddwyd
Mae saith o gefnogwyr clwb pêl-droed Wrecsam wedi cael eu gwahardd rhag gwylio gemau am gyfnod o dair i bum mlynedd ar ôl cyfadde' nifer o droseddau yn ymwneud â'r drefn gyhoeddus.
Roedd chwech o'r saith diffynnydd, sydd rhwng 21 a 30 oed, wedi arddangos baner i gefnogwyr Caer a oedd yn cyfeirio at farwolaeth dau o gefnogwyr y clwb.
Roeddynt hefyd wedi cyfadde' llafarganu a gwneud arwyddion sarhaus.
Plediodd un arall yn euog o ymosod ar stiward a oedd yn gweithio yn y Cae Ras ar y diwrnod dan sylw.
Yn Llys Ynadon Wrecsam ddydd Mawrth, dywedodd y barnwr rhanbarthol Andrew Shaw fod y dynion wedi ymddwyn mewn modd "sarhaus iawn" ac roedd cynllunio'r faner wedi bod yn "weithred greulon."
Mi fydd chwech o gefnogwyr eraill a blediodd yn ddi-euog i gyhuddiadau'n ymwneud â'r drefn gyhoeddus, ac o ymosod, yn dychwelyd i'r llys ar Ragfyr 17.