Y tân yn dal i fudlosgi yn Llandŵ

  • Cyhoeddwyd
Scene of the fire on MondayFfynhonnell y llun, Gareth W Morgan
Disgrifiad o’r llun,

Mae'n bosib na fydd y tân wedi diffodd am wythnos arall

Mae'r tân yn parhau i fudlosgi yng nghanolfan ailgylchu Llandŵ chwe diwrnod ers iddo ddechrau.

Roedd y tân mor fawr fel bod modd ei weld ym Mryste.

Mae 20 o ddiffoddwyr yn cymryd eu tro i daclo'r mwg yn y safle yn y parc busnes ym Mro Morgannwg.

Dydy hi dal ddim yn glir beth achosodd y fflamau ond mi allith o gymryd wythnos arall nes y bydd wedi diffodd yn gyfan gwbl.

Ar un adeg roedd gymaint â 90 o ddiffoddwyr yn brwydro yn erbyn y fflamau yn yr adeilad Siteserv.

Dymchwel adeilad

Mae'r adeilad yn gorfod cael ei ddymchwel er mwyn medru cyrraedd y deunyddiau sydd yn y llosgi, gan gynnwys plastic a charbod.

Dywedodd David Baxter, rheolwr gorsaf Tân De Cymru:

"Yn ystod y nos mae yna dîm amddiffyn o chwech ar y safle. Ond yn ystod y diwrnod mae gyda ni ryw 20 o ddiffoddwyr tân, sydd yn gweithio ar y cyd gyda chwmni dymchwel i wneud yn siwr bod y tân yn diffodd.

"Oherwydd bod strwythur yr adeilad yn beryglus allwn ni ddim mynd mewn a diffodd y tân. Felly maen nhw'n gorfod chwalu'r adeilad a gadael i'r tân ddod aton ni."

Hwn oedd yr ail dân ar y stad o fewn mis wedi i adeilad Siteserv arall gael ei ddinistrio gan dân gwahanol yn ddiweddar.

Tân damweiniol oedd yr un cyntaf ac mae'r ymchwiliad yn parhau i ddarganfod beth sydd wedi achosi'r un yma.