Canllawiau newydd i helpu'r dall a byddar

  • Cyhoeddwyd
ClustFfynhonnell y llun, SPL
Disgrifiad o’r llun,

Bydd staff iechyd yn derbyn hyfforddiant er mwyn cyfathrebu'n well efo cleifion sydd yn cael trafferth gweld,clywed neu siarad

Mae canllawiau newydd yn cael eu cyflwyno yng Nghymru i sicrhau nad yw pobl sy'n ddall neu'n fyddar dan anfantais pan eu bod angen gofal iechyd.

Daw'r cyhoeddiad wedi i BBC Cymru ddatgelu bod byrddau iechyd yn torri rheolau cydraddoldeb.

Dywedodd y Gweinidog Iechyd Mark Drakeford y byddai'r newidiadau yn helpu i leihau'r anawsterau sy'n wynebu'r 600,000 sy'n cael eu heffeithio.

Ond mae un mudiad i bobl byddar yn dweud bod angen i'r Llywodraeth wneud mwy i sicrhau bod cleifion yn ymwybodol o'i hawliau.

Mwy o hyfforddiant

Mae Deddf Cydraddoldeb 2010 yn dweud os oes na berson o dan anfantais wrth ddefnyddio gwasanaeth oherwydd anabledd, dylai newidiadau gael eu gwneud i gywiro'r sefyllfa.

Yng Nghymru mae tua hanner miliwn o bobl gyda nam ar eu clyw ac mae disgwyl i'r ffigwr godi i 725,000 yn y 18 mlynedd nesaf.

Mae hefyd disgwyl i'r nifer sydd yn cael trafferthion gweld ddyblu erbyn 2038. Ar hyn o bryd ryw 100,000 ydy'r ffigwr.

Mae'r canllawiau newydd yn golygu y bydd staff iechyd yn derbyn hyfforddiant ychwanegol er mwyn gallu cyfathrebu'n well efo'r cleifion hynny gan gynnwys defnyddio staff sydd wedi dysgu arwyddiaith.

Mae'r canllawiau hefyd yn cyfeirio at bobl gydag anableddau dysgu, unigolion sydd yn cael trafferth siarad â rhai lle nad y Saesneg ydy eu mamiaith.

"Taclo'r rhwystrau"

Yn ôl y Gweinidog Iechyd, Mark Drakeford, dyma'r cyntaf o ganllawiau tebyg ym Mhrydain.

Dywedodd bod Llywodraeth Cymru wedi gweithio gyda phobl yn y maes yw creu nhw:

"Unwaith y daw y safonau yma i fodolaeth byddan nhw yn helpu i daclo'r rhwystrau mae pobl gyda nam ar eu synhwyrau yn teimlo wrth geisio cael gwasanaeth," meddai.

Sarah Lawrence
Disgrifiad o’r llun,

Mae Sarah Lawrence yn dweud bod angen i'r llywodraeth sicrhau bod pobl yn gwybod am eu hawliau

"Yn benodol byddan nhw yn helpu gweithwyr i adnabod cleifion gyda thrafferthion synhwyrau a gwneud yn siwr eu bod yn darparu ar gyfer eu hanghenion nhw.

"Mae'r safonau yn bodoli ar draws y gwasanaeth iechyd ac ar gyfer yr holl ystod o oedran."

Dwyn i gyfri'

Mae mudiadau yn y maes yn croesawu'r safonau ond yn dweud bod yn rhaid i'r llywodraeth wneud yn siwr bod cleifion yn gwybod beth ydy eu hawliau.

Cyfrannodd Sarah Lawrence, cyfarwyddwraig Deaf Friendly Business Solutions at y canllawiau newydd. Er ei bod yn cydnabod eu bod nhw'n arloesol, dywedodd nad oes na le i fod yn hunanfodlon.

"Mae Llywodraeth Cymru yn bod yn uchelgeisiol a beiddgar," meddai.

"Ond yn ogystal â lansio'r safonau newydd yma dwi eisiau iddyn nhw gymryd cyfrifoldeb am ddweud wrth y 530,000 o bobl yng Nghymru sydd yn fyddar amdanyn nhw.

"Dwi ddim eto wedi fy argyhoeddi y byddan nhw yn gwneud hynny. Os ydyn nhw o ddifri ynglyn â chyflwyno'r newidiadau dylen nhw ddwyn y rheolwyr i gyfri', ac os nad ydyn nhw yn cael eu gweithredu dylai pobl golli eu swyddi."

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol