Buddsoddiad yn creu 200 o swyddi newydd yng Ngheredigion

  • Cyhoeddwyd
Logo Dunbia
Disgrifiad o’r llun,

Bydd Dunbia'n dechrau recriwtio yn syth

Bydd dros 200 o swyddi yn cael eu creu yng Ngheredigion mewn ffatri brosesu a phacio cig eidion.

Bydd y swyddi'n gwasanaethu cytundeb mawr gydag archfarchnad Sainsbury's, a'r gwaith yn dechrau yno fis Chwefror 2014.

Dunbia fydd yn gyfrifol am y ganolfan yn Felinfach ger Llanbedr Pont Steffan.

Mae'r cwmni wedi buddsoddi £7.5m i greu 208 o swyddi yno ac mae Llywodraeth Cymru wedi cyfrannu grant cyllid busnes sydd werth £1.8m.

'Cyflogwr amlwg'

Wrth wneud y cyhoeddiad yn ystod ymweliad a Cheredigion, dywedodd y Gweinidog Economi, Edwina Hart ei bod wrth ei bodd y bydd y buddsoddiad yn "creu swyddi yn yr economi wledig".

"Mae'n newyddion da i'r diwydiant bwyd Cymreig, y gymuned amaethyddol a Cheredigion," ychwanegodd.

"Fe wnaeth y cyhoeddiad am golli swyddi yn Sharp yn Wrecsam yn ddiweddar ein hatgoffa mor ansicr yw'r economi.

"Mae Dunbia eisoes yn gyflogwr amlwg yn y Gymru wledig ac yn flaenllaw yn y sector cig coch, oedd werth £595m i economi Cymru yn 2012.

"Rwyf hefyd yn falch o glywed am gynllun hyfforddi a rhaglen ddatblygu sgiliau Dunbia, ac ymrwymiad y cwmni i ddatblygu eu staff."

'Cyfle cyffrous'

Bydd y ganolfan newydd yn agor ar hen safle DairyGold yn Felinfach, ac mae Jonathan Young o Dunbia dweud bod hwn yn "gyfle eithriadol o gyffrous.

"Rydym yn edrych ymlaen at adeiladu tîm talentog a brwdfrydig yn Felinfach, fydd yn rhannu'n huchelgais am dwf, a'n ffocws ar safon, gwerth a llwyddiant i'n cwsmeriaid."

Fe groesawodd yr Aelod Seneddol lleol, Mark Williams y newyddion, gan ddweud ei fod yn "falch iawn o glywed y newyddion gwych - sy'n creu swyddi, ac yn dda i Ddyffryn Aeron. Hoffwn longyfarch Llywodraeth Cymru am ei rôl, a'r grant o £1.8m i sicrhau'r cytundeb.

"Roedd ymadawiad Dairygold o Felinfach yn drasiedi, ac rwy'n croesawu dyfodiad y ffatri brosesu a phacio cig eidion ym mis Chwefror."