Deintydd yn cael carchar ar ôl cael ei ddal yn twyllo

  • Cyhoeddwyd
Jochemus VenterFfynhonnell y llun, Wales News Service
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Jochemus Venter ei ddedfrydu i 18 mis o garchar am dwyllo

Mae deintydd wedi cael ei garcharu am 18 mis wedi iddo ddwyn bron i £50,000 oddi wrth y Gwasanaeth Iechyd Genedlaethol (GIG).

Fe wnaeth Jochemus Venter a anwyd yn Ne Africa, 211 o geisiadau twyllodrus wrth ddelio gyda dros 100 o gleifion dros bedwar blynedd, cyn iddo gael ei ddal gan ymchwilwyr GIG.

Roedd Venter 55, wedi codi tal am wneud 300 coron i ddannedd, a'r oll yr oedd wedi ei wneud oedd llenwi tyllau ynddynt.

Yn ogystal roedd wedi codi tâl o £1200 am waith orthodonteg ffug.

Ac fe wnaeth nifer o geisiadau am apwyntiadau oedd ddim yn bodoli.

Roedd incwm y practis yn gwneud £350,000 ar gyfartaledd bob blwyddyn.

Clywodd Llys y Goron, Caerdydd, bod Venter yn llywodraethwr ysgol ac yn ddeintydd uchel ei barch yn Llandrindod.

Yn 2008 gwerthodd ei bractis i gwmni deintyddol, ond parhaodd i weithio yno, rhan amlaf i'r GIG.

Cyfaddefodd Venter i wyth o gyhuddiadau o dwyllo.

Meddai Carl Harrison ar ran yr erlyniad: "Fe wnaeth ceisiadau ffug am driniaeth ddeintyddol yn aml ac yn systematig.

"Roedd yn gwneud ceisiadau am dal am driniaeth orthodonteg pan ni roddwyd triniaeth o'r fath o gwbl."

Wrth ddedfrydu Venter i garchar, meddai'r Barnwr, Tom Crowther: "Am bedair blynedd fe wnaethost dwyllo oherwydd dy drachwant mewn ffordd soffistigedig."

Gorchmynwyd Venter i dalu costau o £30,000 tuag at yr erlyniad.

Meddai Mark Weston o wasanaeth Twyllo'r GIG: "Roedd yn weithiwr proffesiynol yn cael ei dalu'n dda ond roedd yn farus.

"Mae'r ddedfryd yma'n dangos na fydd troseddu yn erbyn GIG Cymru yn cael ei ddioddef."

Ychwanegodd bod y £47,900 wedi cael ei adfer o dan gyfraith enillion trosedd.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol