Rhybudd am ganolfan hamdden Harlech

  • Cyhoeddwyd
Pwll Nofio Harlech
Disgrifiad o’r llun,

Mae rhybudd y gall y pwll nofio yn Harlech gau o fewn 3 mis

Mae rhybudd y bydd pwll nofio Harlech yn gorfod cau o fewn tri mis os nad oes mwy o gwsmeriaid yn dod drwy'r drysau, a bod mwy o wirfoddolwyr yn helpu i'w redeg.

Yn ôl un o'r cyfarwyddwyr, mae'r dyfodol yn ansicr iawn os na fydd y pwll yn cael mwy o gymorth gan y gymuned.

Ym mis Rhagfyr 2010, rhoddodd Cyngor Gwynedd gyfrifoldeb am y pwll i gwmni cymunedol, Hamdden Harlech ac Ardudwy.

Mae un cynghorydd lleol wedi galw ar bobl i ddefnyddio'r cyfleusterau, neu wynebu eu colli.

Mae Dylan Hughes yn un o dri chyfarwyddwr sy'n rhedeg y canolfan hamdden, lle mae pwll nofio, caffi a wal ddringo.

Maen nhw'n cyflogi pum aelod o staff llawn amser, pedwar rhan amser ac wyth gweithiwr achlysurol.

Ond mae Mr Hughes yn dweud bod angen mwy o gefnogaeth i sicrhau dyfodol y ganolfan, ac o leiaf chwe chyfarwyddwr.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Dylan Hughes yn dweud bod angen mwy o gefnogaeth i'r ganolfan hamdden

"Ar y funud dim ond tri chyfarwyddwr sydd ar y bwrdd, ac fel cwmni dydyn ni ddim yn cael rhedeg dim ond hefo tri, felly mae angen i ni gael mwy o bobl ar y bwrdd." meddai.

"Fel ydyn ni rŵan, gallwn ni ddim gwneud penderfyniadau i symud y lle ymlaen.

"Rydym ni eisiau mwy o gefnogaeth a phobl yn dod trwy'r drws wrth gwrs, ond hefyd mae ganddo ni ddyled hefo'r cwmni ynni."

Mae Mr Hughes yn son am ddyled o £40,000 hefo cwmni trydan.

Y gobaith yw y caiff y ganolfan dalu'r arian yn ôl dros gyfnod o ddwy flynedd, ond mae'r cwmni yn awyddus i gael yr arian yn ôl o fewn 12 mis.

Ni fyddai'r ganolfan yn gallu fforddio hynny yn ôl Mr Hughes, ac mae'n dweud byddai colli'r cyfleusterau yn effeithio'n fawr ar y gymuned.

"Dwi'n meddwl y buasai'n golled mawr, ddim ond i Harlech ond i ardal Ardudwy."

Roedd Mr Hughes ei hun yn un o'r llawer dysgodd i nofio yn y ganolfan, wedi iddo fynd i drafferth yn y môr pan yn ifanc.

"Fuasai'r pwll nofio yn mynd, a dwi'm yn gwybod faint o gannoedd neu filoedd o blant sydd wedi dysgu i nofio yma, mae'n anodd rhoi ffigwr ar faint sydd wedi cael eu hachub neu sydd heb fynd i drafferthion wrth nofio (oherwydd hynny)"

Mae'r Cynghorydd Caerwyn Roberts, sy'n cynrychioli Harlech ar Gyngor Gwynedd yn dweud bod y ganolfan yn bwysig iawn i'r ardal, ac mae wedi galw ar bobl "i'w defnyddio neu wynebu eu colli".

Bydd cyfarfod cyffredinol yn cael ei gynnal ar Ionawr 21 i drafod dyfodol y cyfleusterau.