Disgyblion ag anghenion arbennig yn chwalu 'stigma' wrth redeg siop

Un o wirfoddolwyr y siop, Jack, gyda Stacey Long o Ysgol Y Deri yn mwynhau yn Hubbub
- Cyhoeddwyd
Mae siop newydd wedi agor ym Mhenarth er mwyn cynnig profiad gwaith a hyfforddiant i bobl ag anableddau ac anghenion dysgu ychwanegol.
Cymysgedd o gyn-ddisgyblion a rhai presennol o Ysgol Y Deri - yr ysgol anghenion addysgol arbennig fwyaf yn y Deyrnas Unedig - sydd yn rhedeg y siop.
"Mae'r disgyblion yn alluog, ond yn aml tydi hynny ddim yn cael ei gydnabod." dywed Stacey Long, sef arweinydd pontio ôl-16 oed yr ysgol a'r un sydd yn gyfrifol am ddechrau'r fenter.
Mae gan y rhan fwyaf o'r staff awtistiaeth lefel gweithredu uchel - high functioning autism - ac maen nhw'n gweithio mewn parau i gefnogi ei gilydd.

Stacey Long, athrawes ac arweinydd pontio ôl-16 oed Ysgol Y Deri, ddatblygodd siop Hubbub
Datblygodd y syniad ar ôl i Ms Long ofni ei bod hi "wedi methu'r disgyblion" pan oedden nhw'n gadael yr ysgol, neu goleg, ac yn methu cael swyddi.
Trwy'r DU, Cymru sydd â'r gwahaniaeth mwyaf mewn cyfraddau cyflogaeth rhwng pobl anabl a phobl heb anableddau, yn ôl adroddiad gan bwyllgor y Senedd, dolen allanol.
"Mae 'na stigma mawr rownd anghenion arbennig," meddai Ms Long.
"Trwy gydol eu bywydau, maen nhw wedi clywed eu bod nhw methu gwneud pethau, ond maen nhw'n haeddu cael swydd.
"Dwi eisiau iddyn nhw weld y potensial yn eu hunain."
'Dangos eu gallu'
Dechreuodd Hubbub fel siop dros dro o fewn Ysgol Y Deri, ond wedi iddi lwyddo a thyfu, mae ganddi bellach safle parhaol ar stryd fawr Penarth.
"Ro'n ni eisiau creu lle arbennig i'r unigolion, iddyn nhw allu dangos eu gallu i'r gymuned," dywedodd Ms Long.
Daeth sawl busnes lleol i wirfoddoli eu hamser a'u hadnoddau i drawsnewid y safle, gyda'r bobl ifanc "yn arbenigwyr ar baentio ac addurno erbyn y diwedd", meddai.

Un o wirfoddolwyr y siop ydy Cody, sy'n 18 oed
Y gobaith ydy helpu'r bobl ifanc gael swyddi, wrth gynnig profiad gwaith a'r cyfle iddyn nhw ddatblygu sgiliau fel cyfathrebu, hunanhyder ac annibyniaeth.
"Be' dwi'n mwynhau fwyaf am Hubbub yw'r til, achos dwi'n gallu gweithio ar fy sgiliau mathemateg," meddai Cody, disgybl 18 oed sydd ag anhwylder sbectrwm awtistiaeth.
Mae Josh, sydd ag anawsterau dysgu cymedrol, yn credu mai "cyfarfod a gweithio efo'r cyhoedd" ydy'r sgiliau mae ef wedi gwella fwyaf ers gwirfoddoli.
Dywedodd bod y siop wedi rhoi hyder iddo ymgeisio am swyddi yn y dyfodol.

Un o'r gwirfoddolwyr, Liam, yn helpu paratoi dillad ar gyfer eu gwerthu
Disgybl sydd "wedi fy ysbrydoli" gan y siop ydy Liam, 16 oed.
"Mae'n grêt cael y cyfle yma fel dyn ifanc ag anghenion arbennig," dywedodd.
Mae gwirfoddolwr arall, Jack, yn dweud bod ei ddyfodol "wedi newid" a'i fod bellach eisiau gweithio mewn siop.
Ar werth yn y siop mae cymysgedd o ddillad newydd ac ail-law, a chynnyrch gan wneuthurwyr lleol, gan gynnwys y disgyblion.

Mae cynnyrch gan 18 o fusnesau lleol ar werth yn y siop, gan gynnwys gwaith ffelt, gemwaith, gwaith pren a chrochenwaith
Mae Stacey Long yn dweud ei bod eisiau i gyflogwyr fod yn fwy agored i gael staff ag anableddau ac anghenion dysgu ychwanegol.
"Maen nhw yn gallu gwneud y swydd, ac yn aml yn dod â sgiliau gwahanol i bobl eraill, ond mae angen ychydig o hyblygrwydd arnyn nhw, a newidiadau bach yn y gweithle," meddai.
Gwirfoddolwyr sy'n rhedeg y siop, ond dywed Stacey mai'r freuddwyd yn y pendraw ydy cyflogi rhai o'r unigolion.
"Dwi eisiau torri'r cylch," meddai.
Mae'r siop ar Stryd Stanwell ar agor rhwng 10:00 a 16:00 o ddydd Mawrth i ddydd Sadwrn.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd4 o ddyddiau yn ôl