Isetholiad Caerffili: Beth yw'r pynciau pwysig i bobl yr ardal?

Castell CaerffiliFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Fe fydd etholwyr yng Nghaerffili yn pleidleisio ar 23 Hydref

  • Cyhoeddwyd

Gall penderfyniadau pleidleiswyr Caerffili gael effaith fawr ar wleidyddiaeth Cymru dros y misoedd nesaf.

A hithau wedi bod yn gadarnle i'r Blaid Lafur ers cenedlaethau, bellach mae 'na bleidiau eraill sy'n meddwl bod ganddyn nhw gyfle i gipio'r sedd hon.

Gyda chymaint yn y fantol mae'r pleidiau gwleidyddol yn awyddus i ddeall beth yn union sydd ar feddyliau pobl yr etholaeth.

Wrth grwydro o amgylch yr ardal, mae'n amhosib osgoi'r holl arwyddion sydd wedi ymddangos mewn gerddi ac wedi eu gosod ar ffenestri trigolion.

Nerys Godfrey
Disgrifiad o’r llun,

Trafnidiaeth a heolydd prysur tref Caerffili sy'n destun pwysig i Nerys Godfrey

"Mae lot o bobl yn siarad - mae'n destun siarad mawr yn yr ardal, ond mae pobl yn barchus o'i gilydd," meddai Nerys Godfrey, cyn-athrawes a mam i dri sydd wedi byw yng Nghaerffili ers dros 20 mlynedd.

"Dy' nhw ddim o reidrwydd yn dweud pa blaid maen nhw'n mynd i ethol neu pa blaid maen nhw'n mynd i ddewis yn yr etholiad, ond mae lot o arwyddion o gwmpas y dref.

"Dwi'n credu bod lot o bobl yn poeni ar hyn o bryd am beth fydd a wi'n credu bod nhw eisiau sicrwydd bod pethau'n mynd i fod yn iawn yn y gymuned – achos ma' fe'n gymuned hyfryd."

Gyda chymaint yn teithio nol a mlaen o'r Gaerffili i Gaerdydd, sydd tua wyth milltir i'r de, mae'n dweud bod traffig ar y ffyrdd yn "boen enfawr".

"Mae llawer o bobl yn cwyno bod lot o ffyrdd i mewn ac allan o Gaerffili yn llawn gyda thraffig bob awr o'r dydd," ychwanegodd.

Mewn unrhyw isetholiad, mae 'na bob math o ffactorau yn dylanwadu, o'r lleol i'r rhyngwladol.

Mae cau llyfrgelloedd yn yr ardal wedi arwain at ffrae yn yr ymgyrch hon, er mai penderfyniad y cyngor lleol, nid Llywodraeth Cymru, oedd hynny.

Mae'n amhosibl anwybyddu mewnfudo – testun wnaeth hawlio'r penawdau drwy'r haf - er nad ydyw'n faes polisi sy'n cael ei reoli yn y Senedd. Serch hynny, mae 'na ddadlau brwd wedi bod ynglŷn â pholisi Cenedl Noddfa Llywodraeth Cymru.

Eira Menear
Disgrifiad o’r llun,

Rhestrau aros yw'r flaenoriaeth i Eira Menear, ond mae'n poeni am y sefyllfa ariannol

Yn ôl yr arolygon barn, mae'r gwasanaeth iechyd ymhlith y pynciau datganoledig sydd bwysicaf i'r etholwyr.

Mae'r gwasanaeth yn hawlio dros hanner cyllideb Llywodraeth Cymru – a chryn dipyn o sylw yn y Senedd.

Dywedodd Eira Menear, 68, hefyd o Gaerffili, fod angen lleihau rhestrau aros.

Roedd ei chwaer wedi gorfod talu am driniaeth breifat yn ddiweddar, meddai.

"Ond dwi ddim yn gweld pethau yn gwella fy hunan a bod yn onest, achos y sefyllfa ariannol yn y wlad gyfan," meddai.

Roedden ni'n sgwrsio wrth iddi ofalu am ei hwyres yn sesiwn chwarae i blant, Y Glowyr Bach, mewn canolfan gymunedol.

Eiry Bateman
Disgrifiad o’r llun,

Mae rhieni angen mwy o wybodaeth am ofal plant, meddai Eiry Bateman

Yno hefyd oedd Eiry Bateman, 34. Fel mam i un mae'n dweud y dylai gofal plant fod yn flaenoriaeth i wleidyddion.

"Mae'n teimlo fel bod lot mwy o help ganddyn nhw yn Lloegr na beth sydd gennym ni," meddai.

"Maen nhw'n cael help o naw mis yn Lloegr. Yn yr ardal dwi'n byw, ni ond yn cael e o dair oed, a byddai 'di bod yn help mawr i ni os o'n i 'di cael yr help ers naw mis."

Mae'n dweud hefyd bod angen gwneud y system yn llai cymhleth i rieni newydd.

"Byddai'n neis cael rhyw fath o becyn neu lyfryn gyda gwybodaeth ar beth mae'n rhaid i chi ei wneud a phryd - y pethau pwysig, fel arwyddo lan i ysgol," meddai.

"O'n i ddim yn gwybod bod rhaid neud hynny blwyddyn yn gynnar.

"O'dd e jest drwy siarad gyda rhywun 'oedden nhw 'di dweud bod rhaid i ni arwyddo lan i'r ysgol nawr am y flwyddyn nesaf."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig