Ffermwyr yn disgwyl clywed am arian Ewropeaidd

  • Cyhoeddwyd
Fferm
Disgrifiad o’r llun,

Bydd ffermwyr yn cael eu gorfodi i fabwysiadu dulliau 'gwyrdd' o ffermio

Bydd ffermwyr Cymru'n cael clywed yn ddiweddarach faint o arian y byddan nhw'n derbyn mewn cymorthdaliadau cynhyrchu bwyd dros y chwe blynedd nesaf.

Mae'r taliadau a ddaw o ganlyniad i Bolisi Amaeth Cyffredin (CAP) yr Undeb Ewropeaidd yn cael eu cwtogi, ac un posibilrwydd yw y bydd graddfeydd gwahanol o daliadau i gynnig cymorth i ffermydd ucheldir.

Dywedodd undebau'r ffermwyr y bydd incwm amaethwyr yn disgyn rhwng nawr a 2020, ond yn ôl y Gweinidog Cyfoeth Naturiol a Bwyd, Alun Davies, mae'n gyfnod lle mae angen mwy o effeithlonrwydd a dycnwch.

Bydd Mr Davies yn datgelu beth fydd y taliadau newydd mewn datganiad yn ddiweddarach ddydd Mawrth.

Mae disgwyl iddo ategu'r hyn a ddywedodd ar ddiwedd 2013 pan ddywedodd mai hwn fydd "y cam cyntaf mewn dirywiad real o ariannu uniongyrchol i ffermwyr".

Cwtogi taliadau

Mae gan Gymru oddeutu 16,000 o ffermwyr, ac o'u safbwynt nhw prif nod taliadau CAP yw eu cynorthwyo i gynhyrchu bwyd am brisiau fforddiadwy.

Y llynedd fe gyhoeddwyd y bydd cyfanswm y taliadau uniongyrchol i ffermydd yng Nghymru tua €2,245m rhwng 2014-2020, gyda €355m wedi ei glustnodi ar gyfer cynlluniau datblygu gwledig.

Ond mewn termau real mae hynny'n golygu y bydd taliadau uniongyrchol i ffermydd yn cael eu cwtogi 1.6%, gyda chynnydd o 7.8% yn y gronfa ddatblygu gwledig.

Er hynny oherwydd chwyddiant mae'r ddwy gyllideb yn cael eu cwtogi 12.6% (taliadau uniongyrchol) a 5.5% (cronfa ddatblygu).

Mae'r Comisiwn Ewropeaidd eisoes wedi cytuno ar ddiwygiadau ar gyfer y system daliadau PAC, a bydd y rhain yn dod i rym ym mis Ionawr 2015.

Bydd y system newydd yn newid y ffordd mae rhai ffermwyr yn cael eu talu drwy orfodi gwledydd i dalu ffermwyr ar sail arwynebedd eu tir yn hytrach nac ar sail taliadau hanesyddol.

Mae newidiadau eraill yn cynnwys uchafswm ar y taliadau y gall ffermwyr unigol eu derbyn, sicrhau mai dim ond ffermwyr sy'n weithgar all dderbyn arian a gorfodi ffermwyr i fabwysiadu dulliau gwyrdd o ffermio.

Yn ystod y Sioe Frenhinol yn Llanelwedd y llynedd, fe gyhoeddodd Alun Davies ymgynghoriad ar sut y bydd y taliadau i ffermydd yn cael eu gweithredu yng Nghymru, ac fe fydd ei benderfyniad yn cael ei gyhoeddi brynhawn dydd Mawrth.

Dywedodd ffermwyr ar y maes eu bod nhw'n croesawu'r ymgynghoriad cyn belled a bod y gweinidog yn gwrando ar eu barn.

Bydd posib gweld Mr Davies yn gwneud y cyhoeddiad yn fyw ar wefan Democratiaeth Fyw am tua 3:30yh.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol