Cymeradwyo argymhelliad i sefydlu ysgol Gymraeg ym Mhowys

ysgol calon cymru
Disgrifiad o’r llun,

Byddai'r ysgol newydd yn cael ei lleoli ar gampws presennol Ysgol Calon Cymru

  • Cyhoeddwyd

Mae cynghorwyr Powys wedi penderfynu bwrw ymlaen â'r cam nesaf ar gyfer ysgol newydd cyfrwng Cymraeg i ddisgyblion pedair i 18 oed yn y sir.

Yn dilyn cyfnod o ymgynghori, fe benderfynodd aelodau'r cabinet yn unfrydol dros y cynllun i drawsnewid Ysgol Calon Cymru ac Ysgol Gynradd Llanfair-ym-Muallt, drwy gyhoeddi Hysbysiad Statudol.

Yn ôl yr Aelod Portffolio ar gyfer Powys sy'n Dysgu, bydd yr ysgol Gymraeg newydd - y cyntaf o'i math yng nghanolbarth a de Powys - yn helpu'r cyngor i gyrraedd eu nodau ar gyfer addysg cyfrwng Cymraeg yn y Sir.

Bydd yr Hysbysiad Statudol yn cael ei gyhoeddi ar ôl hanner tymor, gyda chyfnod o 28 diwrnod gyda phobl i gyflwyno gwrthwynebiadau ysgrifenedig.

Mae Cyfarwyddwr Cenedlaethol mudiad RHAG - Rhieni Dros Addysg Gymraeg, Elin Maher, yn galw ar bobl i gefnogi'r penderfyniad hwn "fel bod tegwch i blant Powys".

Mae "heddi'n ddiwrnod pwysig iawn – mae'n ddiwrnod hanesyddol i Bowys" meddai.

Dywedodd ei fod yn "ystadegyn gwarthus a dweud y gwir nad oes yna ysgol uwchradd cyfrwng Cymraeg ym Mhowys eto".

"Ni 'di bod fan hyn o'r blaen ym Mhowys lle ni 'di bod ar fin agor ysgol cyfrwng Cymraeg yn Llanfair-ym-Muallt ond am ba bynnag reswm y tro diwethaf penderfynwyd aros gyda'r statws".

Elin Maher
Disgrifiad o’r llun,

"Mae'n rhaid i ni ddod o hyd i system... sy'n cefnogi teuluoedd sydd am ddysgu drwy gyfrwng y Gymraeg," meddai Elin Maher

"Ac wrth gwrs mae gymaint o bethe' wedi newid dros y blynyddoedd diwethaf, mae'r cynlluniau strategol y Gymraeg mewn addysg," ychwanegodd.

"Mae'n rhaid i ni ddod o hyd i system o fewn ein system addysg sydd yn cefnogi teuluoedd sydd am ddysgu drwy gyfrwng y Gymraeg.

"Be bynnag yw'r hanes sydd wedi bod, gadewch i ni fynd o heddiw - gadewch i ni gefnogi'r cyngor gyda'r penderfyniad hwn fel bod tegwch i blant Powys."

Beth yw'r cynlluniau?

Ar hyn o bryd, mae disgyblion sy'n derbyn addysg cyfrwng Cymraeg yn ne a chanol Powys yn mynd i ysgolion dwy ffrwd, neu'n teithio allan o'r sir i fynd i ysgolion Cymraeg penodedig.

Fel rhan o'i raglen Trawsnewid Addysg, bwriad Cyngor Powys yw adeiladu ysgol cyfrwng Cymraeg bob oed (4-18) o fis Medi 2027 ar gampws presennol Ysgol Calon Cymru yn Llanfair-ym-Muallt.

Bydd yr ysgol newydd yn rhannu'r campws gyda rhai dosbarthiadau cyfrwng Saesneg Ysgol Calon Cymru i ddechrau.

Yna yn 2029, ar ôl i waith datblygu gael ei wneud ar gampws Llandrindod, bydd yr holl ddisgyblion uwchradd cyfrwng Saesneg yn symud yno o gampws Llanfair-ym-Muallt.

Ar ôl i'r ffrwd Saesneg symud yn llwyr o Lanfair-ym-Muallt, bydd ysgol cyfrwng Cymraeg newydd yn defnyddio'r campws cyfan, gan olygu y byddai Ysgol Calon Cymru yn gweithredu o Landrindod yn unig.

Bydd categori iaith Ysgol Gynradd Llanfair-ym-Muallt hefyd yn newid o ddwy ffrwd i fod yn un cyfrwng Saesneg yn unig, gyda disgyblion cyfrwng Cymraeg yn symud i'r ysgol bob oed cyfrwng Cymraeg newydd.

Arwydd ym MhowysFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Yn ôl ffigyrau'r cyfrifiad diweddaraf, fe ddisgynnodd canran y siaradwyr Cymraeg ym Mhowys i 16.2% yn 2021

Cafodd y cyngor gyfanswm o 146 o ymatebion ysgrifenedig yn ystod y cyfnod ymgynghori o saith wythnos.

Dywedodd adroddiad i'r cabinet fod "llawer o'r ymatebion yn mynegi cefnogaeth i'r cynigion, yn enwedig y cynnig i sefydlu ysgol cyfrwng Cymraeg i bob oed yn Llanfair-ym-Muallt."

Ymhlith y pryderon a godwyd gan yr ymatebion oedd yr effaith ar Ysgol Calon Cymru yn ystod y cyfnod pontio, a'r effaith ar Ysgol Gynradd Llanfair-ym-Muallt pe bai disgyblion cyfrwng Cymraeg yn symud allan o'r ysgol.

Cafodd pryderon na fydd y gwaith cyfalaf yn cael ei gwblhau o fewn yr amserlen, a phryderon ynghylch y gallu i recriwtio staff i weithio yn yr ysgol cyfrwng Cymraeg eu codi hefyd.

Michelle Hughes
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Michelle Hughes (dde): "Mae'r Gymraeg yn rhan bwysig iawn o fy hanes, ac mae'n bwysig i ni fod gan ein mab y cyfleoedd hyn"

Mae Lucy Griffiths yn dweud bod gwneud i blant deithio i gael mynediad at y cwricwlwm maen nhw ei eisiau yn syniad gwael.

"Ble fyddwn ni'n gorffen gyda'r adnoddau cyfyngedig sydd gan Bowys o ran addysg? Pam ydyn ni'n dyblygu popeth mewn dwy iaith?

"Os nad oes galw amdano, pam bwrw ymlaen? Rwyf o blaid yr iaith Gymraeg ond mae angen i'r bobl ei arwain, nid y gwleidyddion," meddai.

Bydd Michelle Hughes yn anfon ei mab i'r ysgol Gymraeg newydd os bydd yn agor.

"'Nes i ddim tyfu fyny yn siarad Cymraeg ac rydw i bob amser wedi dymuno gallu siarad mwy," meddai.

"Mae'r Gymraeg yn rhan bwysig iawn o fy hanes, ac mae'n bwysig i ni fod gan ein mab y cyfleoedd hyn, bydd yn rhoi cymaint mwy o gyfleoedd iddo allu aros yn lleol."

Model dau safle 'yn achosi heriau'

Cafodd y pryderon eu hystyried yn ystod cyfarfod y cabinet brynhawn Mawrth, gyda chynghorwyr yn dweud y bydd angen rhoi pecyn cymorth cynhwysfawr ar waith i gefnogi'r newid i'r model newydd, er mwyn lleihau'r effaith ar yr ysgolion a'r disgyblion yn ystod y cyfnod pontio.

Ar hyn o bryd mae 98 o ddisgyblion yn y ffrwd iaith Gymraeg ym mlynyddoedd 7 i 11 yn Ysgol Calon Cymru, ac mae'r niferoedd wedi bod yn gostwng yn ystod y blynyddoedd diwethaf.

Dywedodd yr adroddiad i'r cabinet fod "pryder sylweddol" ymhlith y proffesiwn addysgu ynghylch ymrwymiad y cyngor i ddysgwyr sy'n astudio yn y Gymraeg, gyda'r adroddiad yn ychwanegu nad yw'r trefniant dwy ffrwd bresennol "yn bodloni dyheadau'r cyngor ar gyfer darpariaeth cyfrwng Cymraeg."

Dywedodd y cynghorydd James Gibson-Watt, Aelod Cabinet Powys sy'n Dysgu, ei bod hi'n amlwg ers sawl blwyddyn bod model dau safle Ysgol Calon Cymru yn achosi heriau.

"Mae'r cynnig cyffrous hwn yn cynrychioli'r cam nesaf yn y broses o gyflawni ein cynlluniau strategol ar gyfer addysg ym Mhowys" meddai.

Penderfynodd y cynghorwyr fwrw ymlaen â'r cynigion, gan bleidleisio yn unfrydol o blaid yr argymhelliad.

Mae'r cynlluniau ar gyfer y gwaith cyfalaf sydd angen ei wneud i ddatblygu'r ysgolion wedi'u cyflwyno i Lywodraeth Cymru, gyda chyllideb o £107 miliwn ar draws y ddau safle.

Dywedwyd wrth y cabinet y rhagwelir y bydd Llywodraeth Cymru yn ariannu 65% o'r costau cyfalaf gyda Chyngor Powys yn ariannu'r 35% sy'n weddill.

Mae disgwyl i'r cyngor wneud penderfyniad terfynol ar y mater yn y flwyddyn newydd.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig