Llywodraeth yn 'rhoi esgus' i ysgolion beidio ymrwymo i'r Gymraeg

Bydd angen "prawf eithaf cryf" o'r angen i gael tan 2036 i gyflwyno newidiadau, meddai Mr Drakeford
- Cyhoeddwyd
Mae pryderon wedi eu mynegi y bydd gan rhai ysgolion tan fis Medi 2036 i ddarparu o leiaf 10% o'u dysgu yn Gymraeg.
Mae Mark Drakeford, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a'r Gymraeg, yn mynnu mai "nifer fach" o ysgolion fydd angen tan hynny "i adeiladu capasiti".
Bydd y gweddill yn darparu o leiaf 10%, 50% neu 80% o'u dysgu yn Gymraeg erbyn mis Medi 2030, meddai, yn dibynnu ar eu categori iaith statudol.
Ond dywedodd Plaid Cymru fod amserlen 2036 yn "mynd i roi esgus i ormod o ysgolion i beidio ymrwymo i gyrraedd y targed".

Mae angen "adeiladu ar y cydweithio agos a'r momentwm," meddai Mark Drakeford
Mae Deddf y Gymraeg ac Addysg, a basiwyd yn y Senedd yn gynharach eleni, yn "ceisio sicrhau bod pob disgybl yn cyrraedd diwedd oedran ysgol gorfodol fel defnyddiwr iaith Gymraeg annibynnol".
Dywedodd Mr Drakeford yn y Senedd brynhawn Mawrth: "Erbyn mis Medi 2030, dylai pob awdurdod lleol fod yn gweithredu eu cynlluniau strategol lleol Cymraeg mewn addysg newydd, pob ysgol wedi ei dynodi i gategori iaith statudol, cynlluniau cyflawni ar lefel ysgol yn eu lle ac, yn dibynnu ar gategori'r ysgol, dylai ysgolion fod yn darparu o leiaf 10%, 50% neu 80% o'u dysgu yn Gymraeg.
"Ar gyfer yr ysgolion hynny sydd angen mwy o amser i adeiladu capasiti - a dwi'n rhagweld mai nifer fach o ysgolion fydd hynny - bydd ganddyn nhw tan fis Medi 2036, fan hwyraf, i ddarparu o leiaf 10% yn Gymraeg.
"...Y ffocws nawr a dros y misoedd nesaf yw adeiladu ar y cydweithio agos a'r momentwm a wnaeth ein helpu ni i gyrraedd ble rydyn ni heddiw."
'Ddim yn dderbyniol'
Ond dywedodd Cefin Campbell ar ran Plaid Cymru: "Dwi'n mawr obeithio, gan eu bod nhw eisoes yn gwybod beth yw'r targed hwnnw, ers nifer o fisoedd, y bydd pob un ohonyn nhw yn cyrraedd y targed yna erbyn 2030.
"Dwi'n derbyn efallai bydd un neu ddwy ddim cweit, efallai, wedi cyrraedd y man bydden ni yn dymuno, ond dwi ddim yn credu bod rhoi chwe blynedd ychwanegol iddyn nhw gyrraedd y targed yna yn dderbyniol.
"Ym marn Plaid Cymru, dylai hynny fod llawer, llawer is, achos mae'n mynd i roi esgus i ormod o ysgolion beidio ymrwymo i gyrraedd y targed."
A dywedodd ei gyd-aelod o Blaid Cymru, Heledd Fychan, ei bod "yn rhannu pryderon Cefin Campbell o ran targed 2036, a'r ffaith ei fod yn golygu bod yna blentyn yn cael ei enw rŵan, yn ddibynnol ar god post, fydd efallai ddim yn gweld unrhyw wahaniaeth o gwbl, o basio'r ddeddf yma, tan y byddan nhw'n gadael ysgol gynradd".
- Cyhoeddwyd11 Hydref
- Cyhoeddwyd7 Hydref
- Cyhoeddwyd13 Mai
Ymatebodd Mr Drakeford i'r pryderon: "Pan roeddem ni'n trio creu cefnogaeth i'r Bil, un o'r pethau roedd ysgolion - yn enwedig yn y de ddwyrain ac yn y gorllewin hefyd - yn codi oedd yr amserlen.
"Dyna pam rydyn ni wedi rhoi yn y ddeddf y posibilrwydd iddyn nhw gael fwy o amser, os bydd angen i hynny ddigwydd."
Ychwanegodd y bydd angen "prawf eithaf cryf" o'r angen i gael tan 2036.
"Dwi ddim eisiau gweld mwy o ysgolion nag sydd rhaid yn cael mwy o amser, ond mae'r hyder yn bwysig.
"Ar ôl cael y cyfle, dwi'n dal i fod yn hyderus mai nifer fach o ysgolion fydd angen defnyddio'r cyfle yna."
'Diffyg cynllun gweithlu addysg'
Ar ran y Ceidwadwyr, fe wnaeth Tom Giffard "nodi fy siom o ran diffyg cynllun gweithlu addysg".
"Mae cynllun gweithlu addysg yn rhywbeth mae'r Ceidwadwyr Cymreig, a fi'n bersonol, wedi bod yn galw amdano am flynyddoedd," meddai.
Ymatebodd Mr Drakeford trwy ddweud ei fod yn cydweithio gyda'r Gweinidog Addysg Lynne Neagle wrth baratoi strategaeth newydd.
"Mae nifer o bethau ymarferol ry' ni'n gwneud yn barod i drial tynnu mwy o bobl mewn i'r gweithlu, cadw'r bobl sydd gyda ni yn y gweithlu yn barod, ac uwchsgilio pobl sydd yn y gweithlu yn barod sydd yn gallu siarad Cymraeg, ond ambell waith does dim digon o hyder gyda nhw neu maen nhw eisiau uwchsgilio'r gallu sydd gyda nhw ar hyn o bryd i wneud mwy," ychwanegodd.
Mae'r ddeddf yn sefydlu Athrofa Dysgu Cymraeg Genedlaethol i "gynllunio datblygiad y gweithlu addysg a darparu hyfforddiant ar eu cyfer er mwyn gwella dysgu Cymraeg mewn ysgolion".
Mae hefyd yn sefydlu dull safonol i bobl o bob oed ddisgrifio eu gallu yn y Gymraeg yn seiliedig ar safonau rhyngwladol (Fframwaith Cyfeirio Cyffredin Ewropeaidd ar gyfer Ieithoedd).
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.