Cytuno i gau croesfannau rheilffordd yn y Canolbarth
- Cyhoeddwyd
Bydd cwmni rheilffyrdd Network Rail, yn cau pum croesfan rhwng Talerddig a Charno ym Mhowys a dwy bont yn cael eu hadeiladau yn eu lle ar y lein rhwng Aberystwyth a Yr Amwythig.
Mae'r penderfyniad wedi ei wneud gan Bwyllgor Cynllunio Cyngor Powys er mwyn ceisio gwella diogelwch.
Mae'r croesffyrdd o fewn ychydig filltiroedd i'w gilydd.
Bydd rhaid adeiladu ffyrdd newydd ar gyfer y pontydd a mynediad i'r A470 sydd gerllaw.
Mwy o wasanaethau
Roedd yr adroddiad cynllunio yn dweud y byddai cael gwared a'r croesfannau yn golygu y gallai cyfyngiadau cyflymder ar y rheilffordd cael eu diddymu.
Dywedodd yr adroddiad bod yn newidiadau yma yn rhan o gynllun i gyflwyno gwasanaeth bob awr ar y lein.
Mae Pennant Jones, a'i deulu yn defnyddio'r croesfannau yn aml bob dydd wrth deithio o'u ffarm ac yn ôl.
Meddai: "Mae hyn yn newyddion gwych oherwydd rydym wedi bod yn disgwyl am benderfyniad ers i'r syniad cael ei drafod am y tro cyntaf yn 2011.
"Mi fyddwn yn gallu teithio dros y rheilffordd, yn ddiogel, oherwydd bydd cyflymder y trenau wedi codi o 15 m.y.a i 60 m.y.a ar ôl i'r gwaith orffen."
Ers 2010, mae Network Rail wedi buddsoddi £131m mewn rhaglen genedlaethol i wella croesfannau.
Erbyn mis Ebrill, mae'r cwmni yn gobeithio cau 750 o groesfannau yn cynnwys 174 yng Nghymru.