Cyhuddo dyn, 18, o lofruddiaeth wedi gwrthdrawiad yng Nghaerdydd

Ceir ar y lonFfynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Fe ddigwyddodd y gwrthdrawiad ar Heol Trelái ar 27 Medi

  • Cyhoeddwyd

Mae dyn 18 oed wedi cael ei gyhuddo o lofruddiaeth yn dilyn gwrthdrawiad yng Nghaerdydd fis diwethaf.

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i Heol Trelái, Caerau am 00:30 ar ddydd Sadwrn 27 Medi ar ôl adroddiadau bod car wedi taro tri cherddwr.

Fe gafodd Shelley Davies, 38 o ardal Caerau, anafiadau difrifol yn y digwyddiad ac mae Heddlu'r De wedi cadarnhau y bu Ms Davies farw yn yr ysbyty ddydd Sadwrn.

Wedi'r gwrthdrawiad fe gafodd dyn 18 oed ei arestio ar amheuaeth o achosi niwed corfforol difrifol ac achosi anaf difrifol drwy yrru'n beryglus, a chafodd ei ryddhau ar fechnïaeth.

Mae Kian Bateman o ardal Caerau bellach wedi cael ei arestio eto ac wedi ei gyhuddo o lofruddiaeth Ms Davies, ac o achosi niwed corfforol difrifol i gerddwr arall.

Mae'n cael ei gadw yn y ddalfa gyda disgwyl iddo ymddangos yn Llys Ynadon Caerdydd ddydd Llun.

Dywedodd yr heddlu eu bod yn cydymdeimlo'n arw gyda theulu a ffrindiau Shelley Davies wrth iddyn nhw "geisio ymdopi â'r golled ofnadwy yma".

Pynciau cysylltiedig