Diffyg gweithredu ar dipio anghyfreithlon yn 'rhwystredig'

Dydy Cyngor Sir Pen-y-bont ar Ogwr ddim wedi erlyn unrhyw un am dipio anghyfreithlon ers bron i ddegawd
- Cyhoeddwyd
Mae trigolion yn teimlo'n "rhwystredig" ac wedi "rhoi'r gorau" i adrodd achosion o daflu sbwriel mewn un awdurdod lleol oherwydd diffyg gweithredu ar y mater, meddai ymgyrchwyr.
Daw hyn wrth i ffigyrau newydd ddangos nad yw Cyngor Sir Pen-y-bont ar Ogwr wedi erlyn unrhyw un am dipio anghyfreithlon ers bron i ddegawd, er eu bod yn cael dros 1,500 o adroddiadau y flwyddyn.
"Ry' ni wedi ceisio gwthio nhw ers blynyddoedd", meddai Huw Griffiths o Gymdeithas Cominwyr Coety Wallia, "ond dydyn nhw ddim yn barod i wneud unrhyw beth".
Mae Cyngor Sir Pen-y-bont ar Ogwr yn dweud eu bod bellach yn canolbwyntio ar atal achosion, ac addysgu pobl am daflu sbwriel, o ystyried "yr adnoddau sydd ar gael i ni".

Dywedodd Huw Griffiths, oedd yn arfer gweithio i'r Asiantaeth Amgylchedd, nad yw wedi ei synnu gan ddiffyg gweithredu'r cyngor
Yn 2023/24, fe wnaeth Pen-y-bont ar Ogwr gofnodi 1,510 o achosion o dipio sbwriel yn anghyfreithlon, gostyngiad bychain ar y 1,600 y flwyddyn gynt.
Ond, er gwaethaf yr achosion hynny, mae bron i ddegawd wedi bod ers iddyn nhw erlyn unrhyw un.
Dywedodd Mr Griffiths, sydd wedi ymddeol erbyn hyn ond oedd yn arfer gweithio i'r Asiantaeth Amgylchedd, nad oedd wedi ei synnu gan ddiffyg gweithredu'r cyngor.
"Ry' ni wedi ceisio gwthio nhw ers blynyddoedd i weithredu pan mae'n dod at dipio sbwriel," meddai.
"Ond fe ddywedon nhw nad oedden nhw'n barod i wneud unrhyw beth oni bai ei fod ar eiddo'r cyngor.
"Dyw'r ffigyrau [tipio sbwriel] ddim yn rhoi'r darlun llawn beth bynnag siŵr o fod, achos mae pobl leol wedi rhoi'r gorau i adrodd am y peth – maen nhw wedi rhoi'r gorau i gysylltu gyda'r cyngor achos dydyn nhw heb fod yn taclo'r broblem," ychwanegodd.

Mae Huw Griffiths yn dweud ei fod yn gwybod am achosion pan mae defaid wedi marw o fwyta sbwriel
Yn 2020, fe wnaeth Cymdeithas Cominwyr Coety Wallia lwyddo i erlyn troseddwyr yn breifat ar ôl i sbwriel gael ei adael ar dir fferm cyfagos, a'r gred oedd mai dyna oedd yr achos cyntaf o'i fath yng Nghymru.
Ond, bum mlynedd yn ddiweddarach mae Mr Griffiths, ysgrifennydd y grŵp, yn dweud bod nifer yr achosion parhaus o dipio sbwriel yn "rhwystredig".
"'Dyn ni wedi cael pobl yn taflu bagiau o sbwriel, a fi'n gwybod am achosion lle mae defaid wedi marw ar ôl eu bwyta nhw," meddai.
"Ni wedi cael gwydr wedi torri ar y comin, a'r ffermwyr yn gorfod dod at ei gilydd i'w glirio fe – roedd 'na bedwar bag bin llawn o boteli a phethau fel 'na."
- Cyhoeddwyd10 Hydref
- Cyhoeddwyd6 Chwefror 2020
- Cyhoeddwyd10 Rhagfyr 2016
Er mai cynghorau sy'n gyfrifol am gael gwared ar sbwriel o dir cyhoeddus, does dim rhaid iddyn nhw waredu gwastraff sydd ar dir preifat.
Ond, ers y tro diwethaf i Gyngor Sir Pen-y-bont ar Ogwr erlyn rhywun am dipio sbwriel, mae awdurdod cyfagos Castell-nedd Port Talbot wedi erlyn 139 o achosion, gyda'r rhan fwyaf ohonynt yn arwain at ddirwy.
Dros yr un cyfnod, mae data Llywodraeth Cymru'n dangos bod Cyngor Caerdydd wedi erlyn 206 o weithiau, tra bod cyfanswm Rhondda Cynon Taf yn 143.
Ond cymysg yw'r darlun ar draws Cymru, gyda nifer yn erlyn lond llaw o weithiau'r flwyddyn yn unig – a Chyngor Sir Ynys Môn heb wneud ers bron i ddau ddegawd.
'Canolbwyntio ar atal ac addysgu pobl'
Dywedodd Cyngor Sir Pen-y-bont ar Ogwr fod gostyngiad wedi bod yn nifer yr achosion o dipio sbwriel a gwastraff yn y sir ers 2022/23.
Mae'r diffyg erlyniadau, medden nhw, oherwydd eu bod bellach yn canolbwyntio ar atal achosion ac addysgu pobl am daflu ac ailgylchu sbwriel mewn modd cyfrifol.
"Mae Cyngor Sir Bwrdeistref Pen-y-bont ar Ogwr yn parhau i gofnodi ac ymchwilio i bob achos o dipio sbwriel yn anghyfreithlon, a materion gwastraff," meddai llefarydd.
"Ond yn gyfreithiol, mae'n rhaid i ni ddangos ein bod wedi ceisio gweithio gyda thrigolion cyn rhoi hysbysiadau cosb penodedig.
"Gyda'r gostyngiad yn yr adnoddau sydd bellach ar gael i ni, rydyn ni felly yn y blynyddoedd diwethaf wedi canolbwyntio'n fwy ar atal ac addysgu pobl ar sut i ailgylchu a gwaredu gwastraff mewn modd saff, cyfrifol."
Ychwanegodd: "Er bod y dull hwn yn profi'n effeithiol, bydd yr awdurdod yn dal i geisio cymryd camau cyfreithiol, ble mae'n briodol, yn erbyn troseddwyr sy'n gwrthod defnyddio'r system wastraff ac ailgylchu yn iawn."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.