Cymerwch Chi Sigaret?

Un o'r dadleuon polisi cyhoeddus mwyaf diddorol ers tro yw honna sy'n digwydd ar hyn o bryd ynghylch e-sigarets.

Mae effaith y teclynnau ar iechyd cyhoeddus yn ansicr ac yn ddadleuol. Er na ellir marchnata e-sigarets fel dull o roi'r gorau i ysmygu gan nad yw hynny wedi ei brofi'n wyddonol mae 'na dystiolaeth anecdotaidd eu bod yn effeithiol yn hynny o beth.

Dywedodd y Gweinidog Iechyd ei hun wrthyf ei fod yn derbyn llythyrau gan etholwyr yn dweud wrtho fod e-sigarets wedi eu galluogi i roi'r gorau i ysmygu ar ôl degawdau o drial. Os felly pam eu gwahardd mewn mannau cyhoeddus? Wedi'r cyfan does neb erioed wedi awgrymu y dylid gwahardd anadlwyr nicotin er bod y rheiny ar gael ers degawdau.

Mae hi hefyd yn wir nad yw'r brif ddadl dros wahardd ysmygu baco mewn mannau cyhoeddus sef y peryg o anadlu mwg ail-law yn berthnasol wrth drafod e-sigarets ac mae'n amlwg nad yw'r gwrthbleidiau yn y Cynulliad wedi eu hargyhoeddi gan ddadleuon Mark Drakeford.

Beth yw dadleuon dros waharddiad, felly? Mae 'na beth tystiolaeth o'r Unol Daleithiau fod e-sigarets yn gallu bod yn bethau cŵl ymhlith pobl yn eu harddegau. Yr ofn yw y gallai defnyddio e-sigarets arwain at ysmygu baco. Unwaith yn rhagor dyw'r dystiolaeth ddim yn gwbl gadarn.

Mae'r Llywodraeth hefyd yn awgrymu bod y defnydd o e-sigarets yn normaleiddio arferion ysmygu.

Y broblem i'r ddwy ochor yn y ddadl yw bod e-sigarets yn declynnau sydd wedi cyrraedd y farchnad heb fawr o broses gwerthuso na phrofion meddygol. Oherwydd hynny mae ymateb gwleidyddion yn dibynnu i raddau ar reddf ac mae'r greddfau hynny yn amlygu un o'r rhaniadau gwleidyddol mwyaf sylfaenol.

Ar y naill law mae 'na wleidyddion sy'n credu bod angen rhesymau da iawn a thystiolaeth gadarn cyn cyfyngu ar hawliau'r unigolyn. Ar yr ochr arall mae'r rheiny sy'n credu mai "pwyll pia'u hi" a bod angen ymateb i broblemau posib cyn i nhw droi'n broblemau go iawn.

Mae'r ddau safbwynt yn rhai anrhydeddus. Mae 'na un peth fyddai'n llai felly.

Meddyliwch am eiliad bod llywodraeth wedi bwriadu cyflwyno Mesur Iechyd Cyhoeddus gyda gwaharddiad ar ysmygu mewn ceir lle mae plant yn bresennol yn ganolbwynt iddo. Dychmygwch wedyn fod senedd a llywodraeth arall wedi gweithredu yn yr un maes gan adael twll yn y mesur a dychmygwch am eiliad mai sôn am Fae Caerdydd a San Steffan ydw i yn fan hyn.

Oni fyddai fe'n gythraul o beth pe bai'r llywodraeth gyntaf yn wpo cyfyngiad ar e-sigarets i mewn i'r mesur ar y funud olaf i brofi ei bod yn fwy cadarn yn erbyn ysmygu na'r llywodraeth arall?

Mae 'na ambell i hen ben yn y Cynulliad sy'n amau mai dyna'n union sydd wedi digwydd.