Hillsborough: 'Roedd o'n fy ngharu i'
- Cyhoeddwyd

Roedd Steve Brown ymysg y 96 fu farw yn nhrychineb Hillsborough
Mae gweddw dyn o Wrecsam fu farw yn nhrychineb Hillsborough yn 1989 wedi rhoi tystiolaeth yn y cwest i farwolaethau 96 o gefnogwyr tîm pêl-droed Lerpwl.
Mae cyfle i deuluoedd yr holl bobl fu farw yn y drychineb roi coffa iddyn nhw yn y cwest, er mwyn manylu ar sut mae'r golled wedi effeithio arnyn nhw.
Roedd Sarah Brown yn feichiog pan fu farw ei gŵr, Steve yn y drychineb yn rownd gyn-derfynol Cwpan yr FA fis Ebrill 1989.
Fe ddisgrifiodd Ms Brown sut roedd ei gŵr yn caru pysgota - rhywbeth y dysgodd o iddi hi ei garu hefyd. Fe siaradodd hi am "yr hogia" a'r tîm pŵl oedd Mr Brown yn perthyn iddo. "Roedd o wrth ei fodd gyda'r tynnu coes," meddai "ac roedden nhw'n ei garu a'i drysori o, fel oedd o'n eu caru hwythau".
Dywedodd Ms Brown bod gan ei gŵr berthynas agos â'i frawd, Andy, ac roedd wastad yn cadw llygad ac yn gofalu amdano. Roedd y ddau yn caru tîm pêl-droed Lerpwl - ac fe fyddai Steve "wedi mynd i ben draw'r byd i'w gwylio".
Fe gafodd y brodyr eu magu gan eu nain ym mhentre' Holt ger Wrecsam. Bu farw eu nain yn 2009.
'Hiraeth'
Ond "fi" oedd cariad mwya' Steve, yn ôl Ms Brown.
"Roedd o'n fy ngharu i hefo... ymrwymiad ac angerdd oedd yn fy ngwneud i'n benysgafn... Mae gen i hiraeth am y teimlad 'na," meddai.
Fe ddywedodd Ms Brown fod ei gŵr yn ysu i fod yn dad. Roedd o eisiau merch, meddai, ac wedi dewis yr enw Samantha.
Pan aeth hi'n feichiog, yr unig beth ar ei feddwl oedd mynd â'r plentyn i bysgota, a chael tŷ gyda gardd, a'u cynlluniau at y dyfodol.
Bu farw Mr Brown yn 25 oed, pan oedd Ms Brown wedi bod yn disgwyl ers chwe mis.
Fe gafodd Samantha Sarah Brown ei geni ddiwedd Gorffennaf, 1989.
Yn ôl Ms Brown, roedd hi'n dweud wrth ei merch yn gyson, gymaint oedd ei thad yn ysu am gael merch fach, er mwyn cael bod "y dadi gorau erioed".