Gohirio ymchwiliad cynllunio i gostau hen Ysbyty Dinbych
- Cyhoeddwyd
Mae ymchwiliad cynllunio i gostau'n ymwneud â gwaith brys ar adeilad hen Ysbyty Gogledd Cymru yn Ninbych wedi cael ei ohirio tan ddiwedd Mai.
Bu'n rhaid i Gyngor Sir Ddinbych wario oddeutu £900,000 ar waith brys i ddiogelu'r adeilad, ac fe anfonwyd anfonebau am y gwaith at berchennog y safle, Freemont (Denbigh) Ltd, cwmni sydd wedi ei leoli ar Ynysoedd y Wyryf.
Apêl
Ond fe gyflwynwyd apêl gan y cwmni yn erbyn hysbysiadau a gyhoeddwyd gan y cyngor am werth £450,000 o waith, ac fe gynhaliwyd rhan gyntaf yr ymchwiliad i'r mater yn Neuadd y Dref Dinbych yr wythnos ddiwethaf.
Cafwyd tystiolaeth gan dri o'r wyth tyst yn yr ymchwiliad, ac mi fydd yr Arolygaeth Gynllunio yn ail-ymgynnull ddydd Mercher, Mai 28 am dridiau, er mwyn clywed tystiolaeth gan weddill y tystion.
Gorchymyn Prynu Gorfodol
Nid yw'r achosion yn ymwneud â phenderfyniad diweddar y cyngor i gymryd Gorchymyn Prynu Gorfodol yn erbyn y perchennog. Yn ôl y cyngor, fe fydd dogfennau'r gorchymyn yn cael eu cyflwyno i'r perchnogion yn fuan.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd8 Ebrill 2014
- Cyhoeddwyd23 Mawrth 2014
- Cyhoeddwyd7 Chwefror 2014
- Cyhoeddwyd17 Gorffennaf 2012