Craig Safadwy Mewn Tymhestloedd
- Cyhoeddwyd
Mae modd bod yn rhy onest mewn gwleidyddiaeth. Un sydd newydd ddysgu hynny, rwy'n amau, yw Craig Williams, darpar ymgeisydd y Ceidwadwyr yng Ngogledd Caerdydd.
Mae honno'n etholaeth bwysig, wrth gwrs. Hi yw'r sedd fwyaf ymylol yng Nghymru ar lefel seneddol ac mae'r Ceidwadwyr a Llafur wrthi fel lladd nadroedd yno'n barod.
Does dim rhyfedd efallai bod papur newydd yr Independent, dolen allanol wedi penderfynu danfon gohebydd i'r etholaeth fel rhan o gyfres o erthyglau'n adlewyrchu cadfeysydd etholiadol 2015.
Yn yr erthygl mae Craig yn anghytuno â'r iaith a ddefnyddiwyd gan David Cameron a Jeremy Hunt yn eu hymosodiadau diweddar ar y Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru.
Dydw i ddim yn synnu bod Craig yn credu hynny. Wedi'r cyfan mae ysbyty mwyaf Cymru, Ysbyty'r Brifysgol, yng Ngogledd Caerdydd a go brin bod pobl sy'n gweithio yno'n teimlo'n dwymgalon iawn tuag at blaid sy'n colbio safon eu gwaith ac yn portreadu Clawdd Offa fel y ffin rhwng einioes ac angau.
Fel dywedais i rwy'n deall amheuon Craig. P'un ai oedd e'n gall i leisio nhw i newyddiadurwraig o Lundain sy'n fater arall!
Ond mae sylwadau Craig yn amlygu un pwynt bach diddorol sef bod y fodel draddodiadol o Gymru, y fodel dri rhanbarth, a ddefnyddiwyd gan genedlaethau o sepholegwyr a newyddiadurwyr gwleidyddol, bellach bron yn ddi-werth.
Cyn ei chladdu hi mae'n well i mi adrodd ychydig ar ei hanes.
Yr Athro Alfred Zimmern o Brifysgol Cymru, Aberystwyth wnaeth lunio'r model yn ôl ar ddechrau'r 1920au. Bedyddiwyd y tri rhanbarth yn 'Welsh Wales','American Wales' ac 'English Wales' gan Zimmern ac awgrymodd eu bod yn sylfaenol wahanol i'w gilydd yn gymdeithasol ac yn wleidyddol.
Y bröydd Cymraeg oedd 'Welsh Wales', roedd 'American Wales' wedi ei lleoli yn y Cymoedd tra bod 'English Wales' yn cynnwys dinasoedd y de, ardaloedd diwydiannol y gogledd-ddwyrain a'r ardaloedd gwledig dwyreiniol.
Yn ei hanfod roedd y fodel yn awgrymu bod etholaethau'r Gymru Seisnig yn dilyn yr un patrymau gwleidyddol ac etholaethau yn Lloegr tra bod gan y ddwy Gymru arall eu nodweddion unigryw eu hun.
Does 'na un etholaeth sy'n fwy cynrychioli'r Gymru Seisnig yn well na Gogledd Caerdydd. Yn ail hanner yr ugeinfed ganrif roedd y gogwydd etholiadol lleol yn debyg iawn i'r cyfartaledd Prydeinig. Fel byswch chi'n disgwyl mewn etholaeth lle mae 34.7% o'r gweithlu yn broffesiynol neu'n rheolwyr a dim ond 17.9% yn gweithio mewn swyddi sgiliau isel roedd y lle dipyn o gadarnle Geidwadol.
Gwna ddaeargrynfeydd dan gadarn goncrit ffilisitia!
Llwyddodd Llafur i gipio'r sedd yn 1966 a 1997 a'i chadw yn 2001 a 2005. Roedd y rheiny'n ganlyniadau da iawn i Lafur ond canlyniad 2010 oedd y sioc. Dim ond o drwch blewyn y cipiodd y Torïaid y sedd a hynny gyda gogwydd o ddim ond 1.5% o gymharu â'r gogwydd Prydeinig o 5%. Cyn i chi ofyn dyw poblogrwydd lleol Julie Morgan ddim yn ddigon i esbonio'r gwahaniaeth.
Sut mae esbonio'r peth felly? Mae 'na ddwy ffactor yn fy marn i. Mae'r gyntaf yn ddigon amlwg. Mae canran y swyddi sector gyhoeddus yng Ngogledd Caerdydd gyda'r uchaf ym Mrhydain. Nid yn sector breifat y mae'r holl reolwyr a phobol brofesiynnol yna'n gweithio.
Mae'r ail ffactor yn fwy haniaethol. Gyda chreu egin-wladwriaeth Gymreig mae 'na beth tystiolaeth bod ffiniau haearnaidd y tri rhanbarth yn dechrau dadmer. Fe welwch chi ambell i gynghorydd Plaid Cymru ar Gynghorau'r Gymru Seisnig ac ambell i Ddemocrat Rhyddfrydol - ond dim Toriaid hyd yma - yn siambrau cyngor y Gymru Americanaidd.
Dyw hi ddim yn afresymol dadlau bod 'na wleidyddiaeth gendlaethol Gymreig yn datblygu'n araf bach - gwleidyddiaedd sydd a'i phatrymau a'i hiaith ei hun.
Ydy David Cameron a Jeremy Hunt yn gallu siarad yr iaith honno?
Gofynnwch i Craig Williams.