Ddoe'n Graig a Heddiw'n Gragen.

Nid casgliadau Adroddiad Andrews ynghylch safonau gofal yn Ysbyty Tywysoges Cymru ym Mhen-y-bont ac Ysbyty Castell Nedd Port Talbot yw'r sgandal fwyaf yn hanes y gwasanaeth iechyd yng Nghymru. Sgandal ysbyty meddwl Trelái yng Nghaerdydd sy'n haeddu'r anrhydedd amheus honno.

Yn ôl yn 1967 cyhoeddodd y News of the World gyfres o erthyglau yn cyhuddo rhai o staff yr ysbyty o gam-drin cleifion a dwyn eu heiddo. Fel yn achos Abertawe Bro Morgannwg lansiwyd ymchwiliad swyddogol i gyflwr gofal yn yr ysbyty. Geoffrey Howe oedd cadeirydd yr ymchwiliad a'i ddewis yntau oedd ymchwilio i'r gyfundrefn gofal iechyd meddyliol yn ei chyfanrwydd yn hytrach na chyfyngu ei sylw i Drelái'n unig.

Mae adroddiad Howe, a gyhoeddwyd yn 1969 yn un o'r dogfennau pwysicaf yn hanes y Gwasanaeth Iechyd. Fe arweiniodd, dros gyfnod, at gau'r rhwydwaith o ysbytai meddwl mawrion a mabwysiadu polisi 'gofal yn y gymuned'. Mae'r system o gynnal archwiliadau annibynnol mewn ysbytai hefyd yn deillio o argymhellion yr adroddiad.

Fel mae'n digwydd un o'r arbenigwyr pennaf ar hanes sgandal ysbyty Trelái yw'r gweinidog iechyd presenol, Mark Drakeford. Ei dasg yntau yw sicrhau bod gwersi Pen-y-bont a Chastell Nedd Port Talbot yn cael eu dysgu nid yn unig gan yr ysbytai a Bwrdd Iechyd Abertawe Bro Morgannwg ond gan ysbytai a byrddau iechyd eraill Cymru.

Ond yn ogystal â dysgu gwersi o fethiannau Abertawe Bro Morgannwg mae angen lledaeni arfer da hefyd.

Fel mae'n digwydd, rwyf wedi bod yn ymweld yn rheolaidd ac un o unedau henoed y Gwasanaeth Iechyd dros y misoedd diwethaf. Mae perthynas i mi yn derbyn gofal nyrsio yno a medraf dystio bod y gofal hwnnw yn dyner ac yn gydwybodol. Rwy'n sicr bod profiadau llu o deuluoedd eraill, gan gynnwys teuluoedd yn ardal Bwrdd Iechyd Abertawe Bro Morgannwg, yn ddigon tebyg.

Ail dasg Mark Drakeford felly yw sicrhau nad yw moral staff y ddau ysbyty yn syrthio yn sgil cyhoeddi'r adroddiad.

Gallai hynny fod yn anodd mewn sefyllfa lle mae nifer o weithwyr ar y ffas yn wynebu cael eu disgyblu neu eu herlyn tra bod y rheolwyr wnaeth ganiatau i'r sefyllfa ddatblygu yn parhau yn eu swyddi.