Gwyn eu byd tu hwnt i glyw

Dyw Mai'r pymthegfed ddim yn ddyddiad sy'n golygu rhyw lawer i'r rhan fwyaf o bobol. Go brin bod llawer hyd yn oed yn sylweddoli mai heddiw yw "Diwrnod Rhyngwladol Gwrthwynebwyr Cydwybodol" pan ddathlir y rheiny wnaeth neu sydd yn gwrthod siars i fynd i ryfel.

Yn yr ugeinfed ganrif, fechan oedd nifer y Gwrthwynebwyr Cydwybodol ond mawr eu dylanwad ar hanes Gwleidyddol Cymru. Mewn taflen a gyhoeddwyd yn 1991 fe wnaeth Gwynfor Evans ddadlau bod brwdfrydedd yr enwadau dros y Rhyfel Mawr wedi "prysuro'r broses o sianelu'r gydwybod gymdeithasol trwy'r Blaid Lafur yn hytrach na'r Blaid Ryddfrydol."

Yn sicr mae'n wir bod nifer o weinidogion anghydffurfiol wedi chwarae rhan bwysig yn hanes cynnar y Blaid Lafur yng Nghymru yn enwedig yn y maes glo caled a maes glo'r gogledd.

Mae modd dadlau mai'r rheiny osododd sylfaen i'r 'traddodiad cenedlaethol' o fewn y blaid Lafur Gymreig trwy gymhwyso gwerthoedd Anghydffurfiaeth Gymreig a radicaliaeth wleidyddol y mudiad Llafur cynnar.

Yn rhannau eraill o Gymru fe drodd y chwith yn erbyn y capeli ac mae'n hawdd deall pam. R. Tudur Jones sy'n cyfleu'r peth orau.

Yn yr un Undeb [Annibynwyr] ag y mynegwyd llawenydd am fod gwyr ifainc yn ymrestru yn y Fyddin, pasiwyd penderfyniad yn erbyn papurau Dydd Sul. Yn yr un modd ceid penderfyniadau cyson yn erbyn cynnal cyfarfodydd gwleidyddol ar y SuI ond dim ebwch yn erbyn cynhyrchu arfau rhyfel ar y SuI heb son am eu defnyddio ar y SuI. Aeth hidlo gwybed a llyncu camelod yn gamp mor gyffredin gan arweinwyr yr eglwysi fel nad oedd neb yn siŵr iawn pa rai oedd y gwybed a pha rai oedd y camelod.

Mae heddychiaeth hefyd wedi cyfrannu'n helaeth i syniadaeth Plaid Cymru - yn bennaf efallai oherwydd dylanwad Gwynfor Evans ei hun.

Dyw'r blaid erioed wedi mabwysiadau heddychiaeth fel polisi swyddogol. Ar y llaw arall, fedrwch chi enwi un achos lle mae Plaid Cymru wedi cefnogi mynd i ryfel? Na finnau chwaith.

Dwn i ddim faint o wleidyddion fyddai'n ystyried nhw eu hun fel 'heddychwyr' y dyddiau hyn. Dim llawer, dybiwn i.

Wedi'r cyfan, mae modd gwrthwynebu pob un rhyfel sydd wedi digwydd yn ddiweddar heb gofleidio'r egwyddor na ddylid ymladd o dan unrhyw amod. Dyna, rwy'n amau, yw safbwynt nifer fawr o'r rheiny wnaeth wrthwynebu rhyfel Iraq, er enghraifft.

Ond er nad yw heddychiaeth fel egwyddor yn gred boblogaidd y dyddiau hyn, mewn oes lle mae'n ffasiynol i fawrygu aelodau'r lluoedd arfog mae'n werth cofio am bobol oedd yr un mor ddewr wnaeth ddewis gerdded llwybr llawer mwy unig.