Cyngor Torfaen yn ystyried casglu biniau yn fisol

  • Cyhoeddwyd
Biniau
Disgrifiad o’r llun,

Gall Gyngor Torfaen wynebu dirwy o £600,000 os nad ydyn nhw'n gwella eu hystadegau ail-gylchu

Gall fagiau bin gael eu casglu ond unwaith y mis yn Nhorfaen wrth i'r cyngor geisio osgoi dirwy o £600,000.

Bydd y cyngor yn cael dirwy os na fydd yn cyrraedd targedau ail-gylchu llywodraeth Cymru.

Mae angen iddyn nhw gynyddu'r gyfradd ail-gylchu o 52% i 58%.

Fis diwethaf, penderfynodd Cyngor Gwynedd i gasglu bagiau bin du unwaith bob tair wythnos.

Methu targed

Mae cynghorau Cymru yn wynebu dirwy o £100,000 am bob 1% y maen nhw o dan darged ail-gylchu'r llywodraeth.

Mae Cyngor Torfaen yn casglu 40,000 o fagiau du bob pythefnos ond maen nhw'n dweud bod angen gwneud mwy os ydyn nhw am osgoi'r ddirwy posib.

Syniadau eraill sydd wedi eu cynnig yw cadw'r casgliadau bob pythefnos, neu gosod uchafswm o ddau fag i bob cartref.

Bydd y cyngor yn cynnal ymgynghoriad ar y mater.

Dywedodd un cynghorydd nad oedd y gyfradd ail-gylchu yn y sir wedi cynyddu digon dros y bum mlynedd diwethaf.

"Mae angen i ni leihau faint o wastraff yr ydyn ni'n ei yrru i safleoedd tirlenwi ac er ein bod ni wedi dechrau casgliadau ar gyfer gwastraff gwyrdd, bwyd a chardfwrdd, dim ond o 9% y mae'r gyfradd ail-gylchu wedi cynyddu dros y pum mlynedd diwethaf," meddai'r Cynghorydd John Cunningham.

"Yn syml dydy hyn ddim yn ddigon ac yn ogystal â gwella ein gwasanaethau ail-gylchu, fel yr ydyn wedi ei wneud gyda chasgliadau plastig ychwanegol, fel cynghorau eraill yng Nghymru bydd rhaid i ni gyfyngu ar faint o wastraff yr ydyn yn ei gasglu."