Arolwg yn awgrymu talcen caled i Lafur

  • Cyhoeddwyd
UKIP rosetteFfynhonnell y llun, PA
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r pôl yn awgrymu y gallai UKIP fod y bedwaredd blaid yn y Cynulliad

Mae'r Blaid Lafur yn wynebu talcen caled wrth geisio ennill mwyafrif yn yr etholiad nesaf ar gyfer y Cynulliad yn ôl arolwg barn newydd a gomisiynwyd gan BBC Cymru.

Mae'r gwaith ymchwil yn dangos hefyd bod UKIP ar drothwy sicrhau eu cynrychiolaeth gyntaf ym Mae Caerdydd.

Yn ôl yr arolwg mae 36% yn bwriadu pleidleisio dros Lafur yn y bleidlais etholaeth yn 2016, gyda 24% yn cefnogi Plaid Cymru, 19% y Ceidwadwyr, 13% UKIP a phump y cant yn unig i'r Democratiaid Rhyddfrydol.

Ar gyfer yr ail bleidlais ranbarthol, dywedodd 38% eu bod yn bwriadu pleidleisio Llafur, 22% Plaid Cymru, 21% i'r Ceidwadwyr, 10% i UKIP a phedwar y cant i'r Democratiaid Rhyddfrydol.

Mae dadansoddiad o'r ffigyrau gan Ganolfan Llywodraethiant Cymru ym Mhrifysgol Caerdydd yn awgrymu y byddai Llafur yn ennill 28 sedd - colled o ddwy - Plaid Cymru 14, Ceidwadwyr 11, UKIP 5 a'r Democratiaid Rhyddfrydol yn cwympo o bum sedd i ddwy.

Mae'r pôl yn awgrymu fod cefnogaeth i Lafur yn crebachu. Fe fu'r blaid yn mwynhau cefnogaeth o fwy na 40% mewn arolygon barn y llynedd.

Pleidiau yn cystadlu

Fe fyddai'r ffigyrau'n newyddion da i Blaid Cymru, a fyddai'n cymryd lle'r Ceidwadwyr fel ail blaid y Senedd.

Ac fe fyddai cynrychiolaeth i UKIP am y tro cyntaf yn foment fawr i'r blaid - er bod sylwebwyr yn awgrymu fod UKIP yn wynebu her wrth geisio ail-adrodd eu perfformiad yn etholiadau Ewrop mewn etholiad i San Steffan neu Fae Caerdydd.

Daeth UKIP yn ail fis diwethaf yng Nghymru, a dod o fewn 0.6% o guro Llafur.

Dywedodd yr Athro Roger Scully o Ganolfan Llywodraethiant Cymru:

"Roedd y polau piniwn tan yn weddol ddiweddar yn dangos y blaid Lafur ymhell ar y blaen. Bellach mae'r darlun dipyn mwy cystadleuol.

"Y cwestiwn mawr i UKIP yw a ydy'r lefel bresennol o gefnogaeth yn gynaliadwy? O ystyried fod y pôl wedi'i chynnal mor fuan wedi etholiad Ewrop, fe fydden i wedi disgwyl iddyn nhw wneud ychydig yn well, a dweud y gwir, felly dyma bôl weddol dda i UKIP ond nid un rhagorol."

Ychwanegodd fod Plaid Cymru wedi bod yn "cripian i fyny" yn y polau piniwn dros y flwyddyn ddiwethaf, ond fod y newyddion yn "ddiflas trwy'r amser" i'r Democratiaid Rhyddfrydol. Roedd cefnogaeth i'r Ceidwadwyr yn parhau i fod yn "weddol barchus", meddai.

Dywedodd llefarydd ar ran y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru y byddan nhw yn ymgyrchu ar sail ei record gan gyfeirio at yr arian ychwanegol sydd yn cael ei rhoi i ysgolion ar gyfer cinio am ddim.

Ymateb gwleidyddol

"Yn San Steffan rydyn ni yn cryfhau ein heconomi ac yn gwneud yn siwr bod y bobl sydd yn cael y cyflogau isaf yng Nghymru ddim yn talu ceiniog o dreth incwm."

Mae Plaid Cymru wedi dweud bod y pôl yn un calonogol sydd yn dangos bod y gefnogaeth at y blaid a'i "neges positif" yn "tyfu".

Disgrifiad o’r llun,

Mae'r Ceidwadwyr tu ol i Blaid Cymru yn ôl canlyniadau'r pôl piniwn

"Gyda llai na dwy flynedd tan etholiadau'r Cynulliad, mae na lot fawr o waith i wneud ac mi fydd Plaid Cymru yn parhau i ymgyrchu ar draws ein cenedl a datblygu ein gweledigaeth ar gyfer Cymru lwyddiannus."

Yn ôl y Ceidwadwyr Cymreig mae'r llywodraeth Lafur yn un "ddiog" ac "heb unrhyw syniadau ar ol."

Mae'r llefarydd yn dweud y byddan nhw'n parhau i fod yn blaid sydd eisiau trethi isel a gyda "syniadau mawr". Mi fyddan nhw yn ymgyrchu ar sawl peth fel cefnogaeth i fusnesau bach, rhewi treth cyngor a buddsoddi mwy yn y gwasanaeth iechyd.

"Yr un peth ydyn ni'n cael gan y blaid Lafur diog: torriadau i'r NHS, dirywiad yn y safonau addysg a methiant i ddefnyddio'r lifrau economaidd sydd ar gael ar eu cyfer.

Disgwyl gwelliant

"Yn wahanol i Plaid, rydyn ni yn falch iawn i fod yn rhan o'r undeb a ddim eisiau bod arwahan a thorri'r undeb yn ddarnau."

Mae UKIP yn dweud ei bod yn disgwyl gweld cynnydd mewn polau yn y dyfodol wrth iddyn nhw gyhoeddi eu polisiau cartre.

"Mae'r pôl hwn yn arwydd clir bod ein hagwedd 'synnwyr cyffredin' tuag at wleidyddiaeth yn taro tant gydag etholwyr yng Nghymru.

"Mi fyddwn i yn ymgyrchu yn galed cyn etholiad y Cynulliad ac yn disgwyl i hynny gael ei adlewyrchu mewn polau piniwn yn agosach at y dyddiad."

Yn ôl y Blaid Lafur mae'r pôl yn dangos bod pobl Cymru yn "ymddiried" ynddyn nhw i wneud y "penderfyniadau anodd" a chynnig dyfodol gwell i Gymru.

"Mae'n dystiolaeth bod rhyfel y Ceidwadwyr ar Gymru wedi mynd o chwith go iawn ac wedi methu a rhoi'r hwb o gefnogaeth yr oedden nhw yn gobeithio amdano. Yn hytrach mae wedi achosi iddyn nhw lithro i'r trydydd safle."

Fe wnaeth ICM Research holi 1,004 oedolyn dros 18 oed dros y ffon rhwng Mai 22 a Mehefin 1 2014. Cynhaliwyd y cyfweliadau ar draws Cymru ac mae'r canlyniadau wedi'u haddasu er mwyn gweddu â'r proffil o bob oedolyn yng Nghymru.

Mae ICM yn aelod o Gyngor Arolygon Prydain, ac yn dilyn ei reolau.