Croen y Ddafad Felyn

  • Cyhoeddwyd
  • comments

Doedd hi fyth yn fwriad gen i dynnu coes chi Democratiaid Rhyddfrydol dwywaith mewn wythnos. Ar y llaw arall os ydy eich staff yn ddi-hid ynghylch gadael dogfennau mewnol ar lungopïwr mae'n anodd gwrthsefyll y temtasiwn!

Beth yw hwn felly? Agenda 'knowledge sharing session' grwp y Cynulliad. Rwy'n cymryd mai gair crand am gyfarfod yw 'knowledge sharing session' - a dyna fi'n meddwl mai dim ond y BBC oedd yn defnyddio jargon felly!

Ond pa wybodaeth sydd 'na i'w rhannu, dyweder?

Wel mae'n amlwg bod y blaid yn poeni am y noson Gymreig yng nghynhadledd hydref y blaid. Ydy, mae 'JR' wedi addo helpu 'Ed' i drefnu'r peth ond mae'r ecs-ffactor ar goll rhywsut - "we need Nick Clegg to attend to attract coverage" medd y ddogfen.

Peidiwch a becso bois, fe wnaeth Lembit a'i organ geg y tro!

Pa 'action points' eraill sy 'na?

Wel, mae angen i bawb ymateb ar fyrder ynghylch y cinio diwedd tymor ac mae'n orfodol ar bawb i droi lan i ganfasio yng Nghanol Caerdydd. Ond efallai mai'r neges bwysicaf yw hon "Work needs to generate votes"!

Maen nhw'n gwybod sut mae cael amser da ar yr ail lawr!