Cwmni yn croesawu cyhoeddiad Aberddawan
- Cyhoeddwyd
Mae cwmni Miller Argent - sy'n gobeithio agor safle glo brig yng Nghwm Rhymni - wedi croesawu cyhoeddiad gan gwmni fyddai'n barod i brynu'r glo sy'n cael ei gynhyrchu yno.
Mae Miller Argent eisoes yn darparu tanwydd i orsaf bŵer Aberddawan o safle Ffos y Fran ger Merthyr Tudful.
Fis Hydref y llynedd, fe wnaeth y cwmni gais cynllunio i ddechrau cloddio yn Nant Llesg, er mwyn ateb y galw gan gleientiaid yn cynnwys Aberddawan a gwaith dur Tata ym Mhort Talbot.
Nawr, mae gorsaf Aberddawan wedi cyhoeddi cynllun i sicrhau dyfodol hirdymor y safle.
200 o swyddi
Mae Miller Argent yn dweud y bydd y cynllun i agor glofa yn Nant Llesg yng Nghwm Rhymni yn creu hyd at 200 o swyddi dros gyfnod posibl o 15 mlynedd o weithio.
Ymysg pryderon gwrthwynebwyr, mae effaith llwch, sŵn a dirgryniad ar gymunedau cyfagos Rhymni, Pontlotyn a Fochriw.
Mae ymgyrchwyr hefyd wedi cwestiynu a fydd cyfreithiau llygredd newydd yr Undeb Ewropeaidd yn 2016 yn gorfodi safle Aberddawan i gau - gan amharu ar gynllun busnes y lofa newydd.
Fe ddywedodd Terry Evans, cadeirydd grŵp sy'n gwrthwynebu agor y lofa yn Nant Llesg:
"Mae glo yn danwydd hen ffasiwn, budr a llygredig. Mae gwledydd yn rhoi'r gorau i'w ddefnyddio yn ara' bach. Gyda Nant Llesg, mae'n rhaid i ansicrwydd Aberddawan fod yn ffactor.
"'Falle na fyddan nhw yma ymhen tair blynedd."
£12 miliwn
Er hyn, mae cyhoeddiad gan berchnogion Aberddawan, eu bod nhw'n bwriadu lleihau llygredd a sicrhau dyfodol hirdymor yr orsaf wedi cael ei groesawu gan Miller Argent.
Fe fydd RWE Generation yn gwario £12 miliwn yn Aberddawan, a'r buddsoddiad yn cynnwys cychwyn gosod boeler newydd fydd yn golygu bod llai o nitrogen ocsid yn cael ei ryddhau o'r safle.
Wrth gyhoeddi'r buddsoddiad, fe ddywedodd Roger Miesen o'r cwmni:
"Mae hwn yn gam positif iawn i sicrhau dyfodol yr orsaf wedi 2016."
Ychwanegodd Mr Miesen ei fod yn "arwydd positif ar gyfer swyddi yng Nghymru, ac i'r gymuned lofaol yn y wlad."
Eye on Wales, BBC Radio Wales, 13.30, Sul Gorffennaf 6