Arbrofi yn y Lle Celf yn 2015
- Cyhoeddwyd
Mae wedi bod yn wythnos lwyddiannus yn y Lle Celf ar faes Eisteddfod Genedlaethol Sir Gâr, yn ôl y trefnwyr, ond mae 'na gynlluniau i arloesi ym Mhrifwyl Maldwyn a'r Gororau'r flwyddyn nesa'.
Wrth edrych yn ôl ar y cyfnod yn Sir Gâr, dywedodd swyddog celfyddydau gweledol y Brifwyl fod gwaith y tywyswyr wedi bod yn "allweddol".
Dywedodd Robyn Tomos bod gwybodaeth ychwanegol yn "agor y bocs, ac wedyn mae pobl yn barod wedyn i fynd i'r afael a'r gwaith celf".
Mae ystod eang o waith wedi cael ei arddangos yn y babell dros yr wythnos ddiwethaf, gan gynnwys darnau sy'n ymwneud â hanes Cymru a hanes lleol Llanelli.
Ond ychwanegodd y bydd y Lle Celf yn torri tir newydd y flwyddyn nesaf, wrth iddyn nhw arbrofi gyda chyfyngu ar nifer yr artistiaid.
'Cynnig allwedd'
Mae tywyswyr wedi bod yn arwain Eisteddfodwyr o amgylch y babell ers sawl blwyddyn erbyn hyn, a dywedodd Mr Tomos eu bod wedi dod yn rhan "greiddiol" o lwyddiant y Lle Celf.
"Mae gyda ni griw go lew sy'n mynd i'r afael â'r cyhoedd, ac erbyn hyn byddwn i'n dweud mae'r drefn wedi hen ennill ei phlwy' ac mae pobl yn holi am y gwasanaeth a'r ddarpariaeth," meddai.
"Mae gyda nhw wybodaeth am y gwaith a'r artistiaid, felly maen nhw'n cynnig allwedd, a dim ond ychydig o ffeithiau neu syniadau sydd ishe ar y cyhoedd ac yna maen nhw'n iawn.
"Mae'n agor y bocs os wedwch chi, ac wedyn mae pobl yn barod wedyn i fynd i'r afael â'r gwaith celf. Ond, er dweud hynny, mae 'na weithiau celf yn yr arddangosfa sy'n berthnasol i hanes Cymru a hanes Llanelli felly mae hwnna'n fonws."
Arbrofi yn 2015
Ychwanegodd ei fod wedi ei blesio gyda'r ymateb eleni, ond y byddai "arbrawf" yn cael ei gynnal y flwyddyn nesa' ym Maldwyn a'r Gororau.
"Mae gyda ni'n detholwyr ar gyfer y flwyddyn nesaf ym Maldwyn a'r Gororau, mae gyda ni Angharad Pierce Jones sydd, fel mae'n digwydd, yn cydlynnu'r tywyswyr eleni. Bydd hi'n helpu i ddewis yr arddangosfa agored gyda Michael Nixon ac Elaine Marshall.
"A beth fydd fymryn yn wahanol y flwyddyn nesaf yw y bydd 'na arbrawf yn digwydd, lle bydd nifer yr artistiaid yn yr arddangosfa agored wedi ei gyfyngu i hyd at 20, felly fydd hi'n sioe wahanol."
Un fuodd yn tywys ymwelwyr o amgylch y babell dros y dyddiau diwethaf oedd Meinir Mathias, a ddywedodd bod yr ymateb wedi bod yn "anhygoel".
"Mae fe'n 'neud gwahaniaeth mawr, mae peth o gelf gyfoes yn gwneud pethau yn anodd deall o le mae'r artist yn dod.
"Os nad yw'r cyhoedd yn dod o gefndir creadigol neu gefndir celfyddydol, mae'n gallu bod yn anodd i ddeall rhai darnau o waith celf, felly wrth drafod y gwaith ac o le mae'r artist yn dod, pa syniad sydd tu ôl i'r gwaith celf, wedyn mae'n agor y drysau iddyn nhw, maen nhw'n gallu edrych ar y gwaith a'i ddeall, a chael barn am y gwaith.
"Dwi wedi dysgu lot wrth drafod gwaith a deall mwy am waith artistiaid eraill, ie mae wedi bod yn gret."
Am fwy o'r Brifwyl, ewch i'n gwefan eisteddfod arbennig.