Streic y Glowyr: 'Dim modd ennill'
- Cyhoeddwyd
Bydd cyfres newydd ar S4C sy'n edrych yn ôl ar hanes Streic y Glowyr 1984-85 o berspectif y gwleidydd Adam Price yn clywed gan y Canghellor ar y pryd, Nigel Lawson, sy'n dweud nad oedd hi'n frwydr y gallai'r glowyr fod wedi ei hennill.
Mae'r gyfres o dair rhaglen - Adam Price a Streic y Glowyr - yn bwrw golwg ar anghydfod a barodd am bron i flwyddyn o fis Mawrth 1984, ac a newidiodd maes gweithredu diwydiannol am byth.
Ar y pryd roedd Adam Price - cyn AS Plaid Cymru a darpar ymgeisydd yn etholiad nesa'r cynulliad - yn fab 15 oed i löwr yng nglofa'r Betws ger Rhydaman.
Dywedodd Adam Price: "Yn ystod fy ngyrfa, yn San Steffan a Phrifysgol Harvard, rwyf wedi herio'r sefydliad. Ond heb fy mhrofiadau adeg Streic y Glowyr fyddai'r hyder yna ddim gen i a byddwn i wedi bod yn Adam Price gwahanol iawn."
'Cau pyllau yr unig ateb'
Ar ei daith mae'n cwrdd ag amrywiaeth eang o wleidyddion amlwg y cyfnod, gan gynnwys y Canghellor ar y pryd, Nigel Lawson, oedd â barn bendant iawn am yr hanes.
Dywedodd Mr Lawson: "Roedd yna broblem go iawn gyda'r diwydiant glo. Roedd yn colli rhywbeth fel £1.5 miliwn y dydd, ac yn amlwg doedd dim modd i hynny barhau. Yr unig ateb oedd cau pyllau oedd ddim yn talu ffordd.
"Pan wnaeth Margaret Thatcher fy mhenodi'n Ysgrifennydd Ynni yn 1981 {cyn iddo ddod yn Ganghellor} fe ddywedodd 'Nigel, dydyn ni ddim eisiau streic gan y glowyr'; dyna oedd y peth diwethaf oedd hi am weld.
"Roedd hi wedi gweld beth wnaeth streiciau golwyr i lywodraeth Edward Heath gan streiciau, a gan Scargill yn benodol.
"Fe gollodd Scargill y streic oherwydd, er synod mawr iawn i mi, fe alwodd y streic yn y gwanwyn pan oedd y galw mawr am danwydd eisoes ar ben.
"Doedd dim modd y gallai Scargill fod wedi ennill."
'Amddiffyn ffordd o fyw'
Er gwaetha'r ffaith na threfnodd yr arweinydd Arthur Scargill bleidlais genedlaethol, fe wnaeth glowyr Cymru ar y cyfan gefnogi'r streic ac roedd glowyr Betws - lle'r oedd Rufus Price, tad Adam, yn gweithio - ymhlith y mwyaf triw eu cefnogaeth.
Dywedodd Adam Price: "Mae'r streic yn cynrychioli un o benodau pwysicaf hanes diweddar Cymru... brwydr i amddiffyn cyflogaeth sefydlog yn yr ardal a ffordd o fyw a diwylliant oedd yn golygu cymaint i mi, fy nheulu a fy nghymuned.
"Rwy'n dal i weld y streic heddiw fel cyfnod ysbrydoledig pan ddaeth cymunedau Cymru at ei gilydd i amddiffyn ein ffordd o fyw yn erbyn grym Llywodraeth Dorïaidd."
'Gwallgofrwydd fyddai colli'
Colli oedd hanes y streicwyr, ac yn ôl yr Ysgrifennydd Diwydiant a Masnach ar y pryd - Norman Tebbit - roedd yn rhyfel oedd rhaid digwydd.
"Os ydych chi'n sefyll yn erbyn bwlis mae risg y cewch chi'ch anafu'n ddrwg ac roedd rhaid i ni gymryd y risg yna," meddai.
"Roedd rhaid i ni sicrhau ein bod yn barod - yn wahanol i'r anghydfod yng nghyfnod Heath - bod y gorsafoedd pŵer â digon o gyflenwad.
"Ni alle'n ni fel cenedl fforddio gweld trydedd llywodraeth yn cael ei dymchwel yn dilyn Heath a Callaghan - fe fyddai hynny wedi bod yn wallgofrwydd.
"Rwy'n difaru colledion mewn unrhyw ryfel. Nid yw hynny'n newid fy marn am ryfel, boed hynny yn y Falklands neu dde Cymru neu dde Sir Efrog.
"Dyw fy marn heb newid - roedd rhaid gwneud newidiadau."
Bydd y rhaglen gyntaf yn y gyfres 'Adam Price a Streic y Glowyr', gan gwmni Tinopolis, yn cael ei dangos ar S4C ar nos Fawrth, 23 Medi am 19:30.