Saethu Grugieir

Nofel wnaeth gael argraff fawr arnaf pan oeddwn i'n grwt oedd un o'r enw "The Day the Queen Flew to Scotland for the Grouse Shooting". Byswn i'n hoffi ei hail-ddarllen hi ond gan fod y copi rhataf sydd ar gael ar lein yn costio £2,499.49 fe fydd yn rhaid i mi wrthsefyll y demtasiwn!

Fel mae'n digwydd rwy'n cofio hanfod y stori yn bur dda. Roedd gogledd Lloegr wedi codi mewn gwrthryfel yn erbyn y Llywodraeth - a chymaint oedd y panig y San Steffan nes i'r Frenhines gael ei danfon i Balmoral er mwyn sicrhau ei diogelwch.

Does gen i ddim llawer o gof am fanylion yr hanes ond roedd y diweddglo yn gofiadwy iawn. Gan sefyll yn adfeilion rhyw ddinas ogleddol, Manceinion, Leeds neu le bynnag, mae un o'r cymeriadau yn dweud hyn "They'll rebuild all this of course - and then expect us to spend the next thousand years being grateful to them."

Holl bwynt y nofel yw pa mor gibddall oedd y dosbarth gwleidyddol yn San Steffan i deimladau a buddiannau pobl y tu hwnt i'w cylch cyfun. Os oedd hynny'n wir yn 1969 pan gyhoeddwyd y llyfr - mae'n debyg ei bod hi hyd yn oed yn fwy cywir heddiw.

Pa gasgliad arall sydd yna ar ôl gweld pa mor sydyn y trodd yr ymateb i refferendwm yr Alban yn ddadl ynghylch rheolau sefydlog Tŷ'r Cyffredin?

Dyma i chi enghraifft arall o'r ffenomen. Draw ar wefan y Times, y tu ôl i dollbyrth News UK, gallwch ddarllen am "The Left Power List" - asesiad panel o drigolion y swigen o ba mor ddylanwadol yw gwahanol bersonoliaethau'r chwith wleidyddol.

Carwyn Jones, yr unig Lafurwr sy'n arwain llywodraeth ym Mhrydain, yw'r trideg chweched ar y rhestr. Pwy ydym ni, trigolion Cymru fach, i herio'r syniad bod ein Prif Weinidog ni yn llai pwysig na phobl fel J K Rowling, Owen Jones ac Arglwydd Wood? Y "shadow minister without portfolio" yw'r olaf o rheiny, gyda llaw.

Nawr mae'n bosib na ddylswn ni gymryd y rhestri yma gormod o ddifri. Efallai'n wir eu bod yn dweud mwy am y rheiny sy'n eu llunio na'r bobl sy'n ymddangos arnyn nhw. Eto i gyd mae erthygl arall ar wefan y Times, un gan y colofnydd Alice Thompson, yn awgrymu bod yr un agweddau i'w canfod ar y meinciau blaen.

"...Wales is now barely acknowledged by politicians in Westminster, dismissed by many even in the Labour Party and disowned by the Tories. When I asked one minister what the future held for Wales he said: "Sheep and singing."

"There are no Welsh around the cabinet table apart from Steven Crabb. The most senior elected Labour politician is Carwyn Jones, the First Minister of Wales, yet few know his name."

Fel mae'n digwydd rwy'n credu bod nifer sylweddol o wleidyddion San Steffan yn sylweddoli bod y gagendor rhwng y dosbarth llywodraethol a'r rheiny a lywodraethir yn beth peryglus - ond dyw ymwybyddiaeth ddeallusol o'r broblem yn gwneud fawr ddim i'w datrys.

Un o'r brawddegau y clywyd amlaf yn sgil refferendwm yr Alban oedd yr honiad "na fyddai'r Deyrnas Unedig fyth yr un peth eto" ond onid y newid mwyaf sydd ei angen yw newid agwedd ym meddyliau aelodau'r dosbarth gwleidyddol?

Wedi'r cyfan, mae'r Frenhines braidd yn hen i saethu grugieir a go brin y byddai hi'n gwerthfawrogi galwad ffôn arall gan David Cameron!