Dathlu'r 40 yng Nghwmderi

  • Cyhoeddwyd
CyfrinachauFfynhonnell y llun, Emyr Young
Disgrifiad o’r llun,

Jinx (Mark Flanagan) yn rhannu cyfrinachau gyda Lowri Cooke y tu fâs i'r Deri

Mae Lowri Hâf Cooke wedi treulio'r misoedd diwethaf, bron yn llythrennol, yng Nghwmderi gan ei bod hi wedi bod yn sgwennu llyfr i nodi pen-blwydd Pobol y Cwm yn 40 oed. Mae hi'n rhannu ei phrofiadau fel awdur, ac fel gwylwraig selog y gyfres gyda BBC Cymru Fyw:

Cyfarfod Dic Deryn

Yn 2011 ges i brofiad swreal wrth gyfweld â'r actor Ifan Huw Dafydd ar gyfer Cylchgrawn Barn. I ferch a fagwyd ar Pobol y Cwm roedd cael cwmni 'Dic Deryn' yn bleser pur - wedi'r cyfan, efe, Kath Jones a Mrs Mac yw fy hoff gymeriadau erioed.

Ychydig a wyddwn, o fewn cwta tair blynedd, y bydden i'n glanio ar fy mhen yng Nghwmderi. Dyna'n union a ddigwyddodd dros y flwyddyn a fu, wrth dderbyn cais i sgrifennu'r llyfr Pobol y Cwm - Pen-blwydd Hapus 40 (Gwasg Gomer).

Ffynhonnell y llun, Emyr Young
Disgrifiad o’r llun,

Ar y set gyda Ffion (Bethan Ellis Owen)

Ar y set

Wedi misoedd o ymchwilio, ces fynediad i'r set, a chael trafod â'r tîm cynhyrchu. Ces hefyd gyfweld â phob actor cyfredol ar setiau eu holl gymeriadau. Alla i wir ddim pwysleisio faint o wefr oedd hynny i wylwyraig hir-dymor fel fi.

Rhannais sgwrs â Sheryl (Lisa Victoria) dros sinciau y salon, a chefais orig yn y Felin â Siôn White (Jeremi Cockram). Heliais glecs yn y caffi gyda Debbie (Maria Pride) a Hywel (Andrew Teilo) - a Ffion (Bethan Ellis Owen) yn fflat Cysgod y Glyn.

Profais awren â Jinx ger Bar y Deri, a sesiwn wych ar soffa Garry Monk (Richard Lynch). Cefais baned yn ogystal yng nghartre Buddug Williams - Mrs Harries (mam Reg, Wayne a Sabrina) yn 1974, ond Anti Marian ers 1999.

Ffynhonnell y llun, Emyr Young
Disgrifiad o’r llun,

Dishgled 'da Anti Marian (Buddug Williams)

Toriadau

Roedd pob un o'r actorion yn hollol agored, a hynny ar adeg o ansicrwydd mawr. Dros y flwyddyn a fu bu toriadau ariannol mawr, gan ddiddymu omnibws dydd Sul a phennod yr wythnos. Bu'r newyddion yn bwnc llosg i wylwyr selog a phobol y diwydiant.

Gofynnwyd i mi droeon beth oedd fy marn am hyn, a rhaid cyfaddef rydw i'n rhwyg rhwng dwy stôl. Ar y naill llaw, gallai'r gyfres, sydd â throsiant rhyfeddol, fuddio o rywfaint o ofod anadlu, ond mae'n gwestiwn mawr gen i pam pigo ar lwyddiant mwyaf S4C erioed?

Disgrifiad o’r llun,

Mae Kath Jones (Siw Hughes), un o hoff gymeriadau Lowri, nôl yng Nghwmderi

Dyma'r gyfres sy'n cyrraedd brig y siartiau ffigurau gwylio'n gyson, gyda swm sylweddol o'r gwylwyr yn bobol di-Gymraeg - cynulleidfa y mae'r sianel yn awyddus i'w hatynnu, ac ennyn eu teyrngarwch.

Yn naturiol, mae na bryder mai dim ond y dechrau yw hyn o doriadau dramatig pellach, wrth i siarter y BBC gael ei hadnewyddu ym mis Mawrth 2016.

Beth bynnag fo'ch barn am Pobol y Cwm, mae drama sebon yn gonglfaen pob prif sianel. Mae'n golygu mwy fyth i sianeli ieithoedd lleiafrifol, wrth normaleiddio iaith a diwylliant wahanol mewn ffordd hygyrch, poblogaidd a chyfoes.

Magwraeth yng nghwmni trigolion Cwmderi

Yn bersonol, dydw i ddim yn cofio bywyd heb Pobol y Cwm - fe ges i ngeni rai blynyddoedd ar ôl sefydlu'r gyfres ym 1974. Fel merch fach y ddinas, roedd ymweld â phentre Cwmderi yn brofiad cynnes braf, fel cael cymuned Gymraeg ar fy stepen drws.

Roedd cecru trigolion Bryn Awelon, marwolaeth John yn y crud, a thriongl serch Lisa, Carol a Dic yn gefnlen i fy ieuenctid i.

Disgrifiad o’r llun,

Dic Deryn (Ifan Huw Dafydd), un o gymeriadau lliwgar Pobol y Cwm

Mae'n deg i ddweud y pylodd fy niddordeb yn ystod fy arddegau, er i gymeriadau fel Gina, Hywel, Karen a'r Jonesys gwyllt frwydro'n daer i 'nenu i nol. Does dim cof gen i o wylio'r gyfres yn ystod blynyddoedd y coleg, ond dychwelyd wnes i a dwi'n dal i'w gwylio'n gyson.

I ateb cwestiwn fydda i'n gofyn i bawb, Gary, Sheryl a Hywel yw fy hoff gymeriadau cyfredol i, a rhaid dweud dwi'n joio'r frisson annisgwyl rhwng dau ohonynt ar hyn o bryd. Ond mewn angladd yn ddiweddar, ro'n i'n gegrwth i glywed o enau fy ewythr o'r Bala nad ydy o erioed wedi gweld pennod o Pobol y Cwm yn ei fyw!

Dyfodol addawol

Dyw pawb yn sicr ddim yn gwirioni 'run fath, a rhaid cyfaddef fod na elfennau o'r gyfres sy'n turn-off llwyr i mi; tueddiadau'r cynhyrchwyr i osod merched iau mewn perthynas â dynion llawer hyn na nhw (Karen a Derek 'slawer dydd , a Debbie a Meic a Mark a Gemma yn fwyaf diweddar), anghysondeb hanes cymeriadau, a golygfeydd comig gwan. Ond mae na ddigon i'm denu i 'nol yn gyson i wylio.

A welsoch chi bennod neithiwr, pan ddatgelodd Meic Pierce ei fod yn marw o ganser, a hynny rhwng golygfeydd o Kath a Stacey yn trefnu angladd honco bost 'Mark Ni'?

Ar ben popeth, dwyshawyd y stori fawr nesaf am dwyll ariannol Siôn - o bawb! - wrth brynu Tafarn y Deri. Clasur o bennod, wnaeth atgyfnerthu, cyfiawnhau a gwobrwyo fy nheyrngarwch i. Pen-blwydd hapus i Pobol y Cwm yn 40.

Disgrifiad o’r llun,

Lleucu a Catrin, chwiorydd yr awdur, yn ail fyw rhai o uchafbwyntiau Pobol y Cwm!