Galw am ymchwiliad cyhoeddus i farwolaethau'r Gleision

  • Cyhoeddwyd
GleisionFfynhonnell y llun, South wales police
Disgrifiad o’r llun,

Bu farw Garry Jenkins, 39 oed, Philip Hill, 44 oed, David Powell, 50 oed, a Charles Breslin, 62 oed, yn y gloddfa.

Mae rhieni o un o'r pedwar o lowyr a laddwyd yn nhrychineb pwll glo y Gleision wedi galw am ymchwiliad cyhoeddus i'r digwyddiad.

Bu farw Charles Breslin, 62 oed, David Powell, 50 oed, Philip Hill, 44 oed, a Garry Jenkins, 39 oed, yn y gloddfa yn 2011 pan arllwyswyd 650,000 galwyn o ddŵr i mewn i'r pwll yn dilyn ffrwydrad i ryddhau creigiau.

Ers hynny, mae'r rheolwr Malcolm Fyfield a pherchnogion y gloddfa, MNS Mining, wedi eu canfod yn ddi-euog o ddynladdiad.

Ond mae Ann a Malcolm Jenkins, rhieni Garry Jenkins yn dweud eu bod yn dal i chwilio am atebion.

Roedd y dynion, gan gynnwys Mr Fyfield, yn gweithio o dan y ddaear pan ddaeth y dŵr i mewn i'r pwll ar ôl iddynt dyllu i mewn i'r graig yn yr hen weithfeydd glo ger Pontardawe.

Honnodd yr erlyniad yn yr achos llys, fod y rheolwr wedi cael ei rybuddio am fodolaeth dŵr o dan y ddaear, ond dywedodd arolygiad y diwrnod cyn y digwyddiad mai dim ond "pyllau" dŵr oedd ar y llawr.

Ffynhonnell y llun, Wales News Service
Disgrifiad o’r llun,

Roedd yn rhaid i'r timau achub ddefnyddio pwnc arbennig i waredu'r dŵr o'r gloddfa.

Mae Malcolm Jenkins, ei hun yn gyn-löwr, ac mae wedi dweud nad yw ei deulu yn fodlon nad ydynt wedi cael gwybod yr holl fanylion am yr hyn a ddigwyddodd yn y pwll.

Mae Mr Jenkins eisiau gwybod pwy a pham y gwnaed y penderfyniad i fynd i gyfeiriad y dŵr o dan y ddaear.

'Ddim yn ceisio dial'

"Dy ni ddim ond eisiau gwybod beth ddigwyddodd ar y diwrnod hwnnw," meddai.

Yn gynharach yn yr wythnos fe wnaeth yr Aelod Seneddol dros Castell-nedd, Peter Hain, godi'r mater mewn dadl ynSan Steffan.

Dywedodd fod absenoldeb cwest llawn wedi gadael y teuluoedd heb esboniad llawn o'r hyn a achosodd farwolaethau y dynion.

"Nid ydynt yn ceisio dial. Yr unig beth maent yn gofyn amdano ydi cyfiawnder, ond maent yn dal i aros am hynny," meddai.

Dywedodd Mark Harper, y Gweinidog dros yr Adran Gwaith a Phensiynau sydd a'i gyfrifoldebau yn cynnwys iechyd a diogelwch nad yw adroddiad yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch (HSE) ar y drychineb, sydd i gael ei gyhoeddi yn y flwyddyn newydd yn ateb cwestiynau a gafodd eu trafod yr achos llys.

"Bydd yr arolygiaeth mwyngloddiau yn defnyddio eu harbenigedd proffesiynol i nodi'r dystiolaeth yn dilyn ymchwiliad trylwyr o'r safle," meddai.

"Fel y dywedais, bydd yn cael ei gyhoeddi i bawb ei weld, ac rwy'n gobeithio y bydd yn gosod allan rhai o'r gwersi y gellir eu dysgu o'r drasiedi hon."

Ffynhonnell y llun, Wales News Service
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Malcolm Fyfield mai dim ond ychydig o ddŵr oedd i'w weld yn y graig ddiwrnod cyn y drychineb.