Newidiadau mawr i amserlen S4C

  • Cyhoeddwyd
StwnshFfynhonnell y llun, S4C
Disgrifiad o’r llun,

Anni Llyn, Owain Gwynedd, Lois Cernyw a Tudur Philips sy'n cyflwyno Stwnsh ar hyn o bryd.

Mae Cymru Fyw yn deall y bydd gwasanaeth 'Stwnsh' yn dod i ben yn ei ffurf bresennol ym mis Ebrill 2015.

Mae'r ddarpariaeth, sydd wedi ei anelu at blant rhwng 7 ac 13 mlwydd oed, yn cael ei ddarlledu ar S4C rhwng dydd Llun a Gwener o 5pm.

Mae Cymru Fyw hefyd yn deall bod nifer o gyflwynwyr y gwasanaeth wedi clywed yr wythnos hon na fydd ganddyn nhw waith ar ol mis Ebrill y flwyddyn nesa.

Mae slot 'Stwnsh Sadwrn' yn cael ei ddarlledu ar y penwythnos hefyd am ddwy awr, ond does dim manylion ar hyn o bryd a ydy'r gwasanaeth yma yn cael ei effeithio hefyd.

Mae'r gwasanaeth yn bodoli ar S4C ers Ebrill 2010.

Ar hyn o bryd mae 'Stwnsh' yn cyfrannu dros 9 awr o deledu i'r sianel bob wythnos.

Cyflwynwyr Stwnsh ydy Anni Llyn, Lois Cernyw, Owain Gwynedd a Tudur Philips. Mae Geraint Hardy yn un o gyflwynwyr 'Stwnsh Sadwrn'.

Ar hyn o bryd nid oes rhagor o wybodaeth ynglyn â'r hyn fydd yn cael ei gynnig yn lle 'Stwnsh'. Yn ôl ffynhonnell daw'r newid yn sgil "newidiadau mawr i amserlen ddydd S4C".

Newidiadau cyffrous

Mewn datganiad dywedodd Sioned Wyn Roberts sy'n Gomisiynydd Cynnwys i S4C: "Fe fydd yna newidiadau cyffrous i fformat ac arddull gwasanaeth plant a phobl ifanc S4C o fis Ebrill ymlaen.

"Rydym yn edrych ymlaen at ddatgelu mwy o fanylion am y gwasanaeth ar ei newydd wedd dros y misoedd nesaf.

"Ar hyn o bryd, rydym yn gweithio'n agos gyda'r cynhyrchwyr i ddod â newidiadau i'r gwasanaeth a fydd yn apelio'n fawr at gynulleidfa ifanc S4C."

Er i Cymru Fyw holi am gadarnhad y byddai hyn yn golygu bod 'Stwnsh' yn dod i ben, doedd S4C ddim am wneud sylw pellach.

Dim ond yr wythnos diwethaf roedd cyflwynwyr 'Stwnsh' ar daith o amgylch ysgolion Cymru yn hyrwyddo'r slot.

Boom Plant ydy'r cwmni sy'n gyfrifol am gynhyrchu'r gwasanaeth i S4C, ac maen nhw'n cyflogi 50 o bobl fel rhan o'r tîm cynhyrchu yng Nghaerdydd.

Y cwmni sydd hefyd yn gyfrifol am gynhyrchu slot 'Cyw' sef yr arlwy i'r blynyddoedd meithrin a chynnar.