Cyfle i fyfyrwyr meddygol astudio trwy'r Gymraeg
- Cyhoeddwyd
Bydd modd i fyfyrwyr astudio meddygaeth yn rhannol trwy gyfrwng y Gymraeg am y tro cyntaf yn 2015, ac hynny yng Nghaerdydd neu Abertawe, yn ôl y Coleg Cymraeg Cenedlaethol.
Mae'r coleg yn dweud bod "galw cynyddol am fwy o weithwyr dwyieithog ym maes gofal iechyd ar draws Cymru" a meddygon all gyfathrebu yn y Gymraeg "er mwyn ennyn ymddiriedaeth a chynnal perthynas glos â'r claf".
Bydd Sara Whittam ym Mhrifysgol Caerdydd a'r Dr Heledd Iago ym Mhrifysgol Abertawe yn sicrhau bod myfyrwyr yn datblygu sgiliau clinigol a phroffesiynol yn y Gymraeg ac yn cael trin a thrafod elfennau o'u cyrsiau yn Gymraeg.
Yn ôl Dr Heledd Iago, fydd yn arwain darpariaeth cyfrwng Cymraeg ym Mhrifysgol Abertawe: "Mae'n holl bwysig bod ein myfyrwyr meddygol yn ymwybodol bod eu Cymraeg yn sgil ychwanegol, all gael ei defnyddio i gynnig gwasanaeth o ansawdd uwch i gleifion yng Nghymru.
"Bydd profiadau clinigol cyfrwng Cymraeg yn cynorthwyo ein myfyrwyr i fagu a meithrin hyder i drin a thrafod gyda chleifion a chydweithwyr yn y Gymraeg yn ogystal â'r Saesneg."
Mae'r coleg yn dweud y bydd ar sgiliau ymarferol ac ymchwil ar y cyrsiau, y bydd pob myfyriwr yn derbyn cefnogaeth tiwtor personol ac yn elwa o ddysgu ar leoliad gyda meddygon Cymraeg eraill.
Un sydd yn bwriadu dilyn cwrs meddygol yn rhannol drwy gyfrwng y Gymraeg ydi Mari Trydwr o Ysgol Dyffryn Ogwen: "Trwy'r Gymraeg yn unig y mae rhai cleifion yn gallu cyfathrebu eu hanghenion yn effeithiol felly mae'n bwysig bod ganddynt y dewis i dderbyn y gofal gorau posibl trwy eu mamiaith.
"Byddaf yn manteisio ar y cyfle i wneud rhan o feddygaeth trwy'r Gymraeg."