A fydd Ysgol gynradd Gymraeg yn dod i'r Trallwng?
- Cyhoeddwyd
Gallai ysgol gynradd Gymraeg gael ei hagor yn Y Trallwng fel rhan o gynllun i ad-drefnu ysgolion yn y dref.
Mae Cyngor Powys wedi dechrau'r broses o adolygu ysgolion Y Trallwng wrth i nifer y disgyblion ostwng.
Ar hyn o bryd mae addysg Gymraeg ar gael mewn unedau mewn rhai o'r ysgolion, ond does dim ysgol gynradd Gymraeg yn y dref.
Mae Cyngor Powys yn ystyried sefydlu ysgol gynradd Gymraeg penodedig, y cyntaf erioed yn Y Trallwng.
Ail-edrych ar y sefyllfa
Mae'r cynghorydd Arwel Jones, sy'n gyfrifol am addysg ar gabinet Cyngor Powys, wedi dweud mewn cyfweliad â Craig Duggan ar y Post Cyntaf, bod y cyngor eisoes wedi edrych ar addysg yn Y Trallwng yn 2010, ond y byddan nhw nawr yn ail-edrych ar y sefyllfa.
Dywedodd Mr Jones bod y cyngor yn poeni am lefydd gwag yn ysgolion y dref, ynghyd â'r costau yn ymwneud ag adeiladau'r ysgolion.
Mae'r cyngor eisoes wedi cyfarfod gyda'r ysgolion i drafod dyfodol addysg gynradd yn y dref, a byddan nhw'n cyfarfod gyda rhieni yn y flwyddyn newydd, er mwyn trafod beth maen nhw eisiau ei weld yn yr ysgolion.
Ar hyn o bryd mae addysg Gymraeg yn cael ei ddarparu gan ddwy ysgol wahanol, gydag un ysgol yn darparu addysg Gymraeg ar gyfer blynyddoedd cynnar, cyn i'r disgyblion symud ymlaen i ysgol arall.
Un ysgol Gymraeg
Wrth ymateb i gwestiwn am ddyfodol addysg Gymraeg yn y dref, dywedodd Mr Jones nad oedd penderfyniad wedi cael ei wneud eto, ond bod dwy ysgol gydag adrannau Cymraeg.
Ychwanegodd "efallai y bydd 'na un ysgol Gymraeg ar ôl yr arolwg", a honno'n ysgol ar gyfer yr holl ddisgyblion, o fabanod i ddisgyblion 11 oed.
Wrth ddatgan bod angen ysgol gynradd Gymraeg ar Y Trallwng, dywedodd Mr Jones mai blaenoriaeth y cyngor yw arbed arian yn y dyfodol. Dywedodd bod y cyngor yn gorfod canolbwyntio ar arbed arian, gan edrych ar leihau nifer yr ysgolion er mwyn "balansio'r budget".
O ran yr amserlen ar gyfer gwneud unrhyw newidiadau i'r drefn addysg gynradd yn Y Trallwng, dywedodd Arwel Jones bod y cyngor eisoes wedi cyfarfod â'r ysgolion ddwywaith, ac y bydd rhagor o gyfarfodydd yn cael eu trefnu yn y flwyddyn newydd. Mae'r cyngor yn gobeithio y bydd ganddyn nhw well syniad ynglŷn â dyfodol addysg gynradd yn y dref erbyn y Pasg.