£6.9m i gynllun blynyddoedd cynnar

  • Cyhoeddwyd
Cynllun i helpu teuluoedd difreintiedig

Mae'r Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi, Lesley Griffiths, i gyhoeddi £6.9m o gyllid cyfalaf ar gyfer Dechrau'n Deg, cynllun i helpu teuluoedd yn rhai o ardaloedd mwyaf difreintiedig Cymru.

Bydd y Gweinidog yn gwneud y cyhoeddiad mewn seremoni wobrwyo yng Nghaerdydd ddydd Llun.

Bwriad y seremoni ydi cydnabod cyfraniad gweithwyr Dechrau'n Deg i fywydau pobl a datblygiad plant yn ystod eu blynyddoedd cynnar.

Buddsoddiad cyfalaf

Yn ôl y llywodraeth, caiff y buddsoddiad cyfalaf ei ddefnyddio i greu lleoliadau gofal plant a mannau lle gall rhieni gael y cymorth a'r gefnogaeth angenrheidiol i ddygymod â'r pwysau a ddaw yn sgil tlodi.

Mae hyn yn cynnwys creu cyfleusterau gofal plant newydd yn Abertyleri, y Coed-duon a Sir Gaerfyrddin, yn ogystal â gwelliannau i gyfleusterau presennol Dechrau'n Deg ar draws Cymru.

Bydd y cyllid hefyd yn creu swyddi wrth adeiladu canolfannau newydd a gwneud gwelliannau i brosiectau sydd eisoes yn bodoli, yn ogystal â chreu swyddi lleol yn y cyfleusterau eu hunain.

Dywedodd Lesley Griffiths: "Wedi ymweld â chyfleusterau Dechrau'n Deg ar draws Cymru a siarad â'r teuluoedd sydd wedi elwa o'r cymorth a'r gefnogaeth sy'n cael ei ddarparu gan ein staff ymroddedig, mae'n amlwg bod y rhaglen yn cael effaith aruthrol ar fywydau pobl.

"Bydd y cyllid hwn yn helpu 40 prosiect cyfalaf newydd ar draws Cymru, er mwyn sicrhau bod gennym y cyfleusterau angenrheidiol i fodloni'n hymrwymiad i ddyblu nifer y plant sy'n elwa yn sgil Dechrau'n Deg i 36,000 erbyn 2016."

'Balch iawn'

Ychwanegodd y Gweinidog: "Rwy'n falch iawn o'r tîm Dechrau'n Deg a'u llwyddiant. Mae'r enillwyr a'r rhai a gafodd eu henwebu'n gyfran fach o'r nifer fawr o staff ymroddedig, brwdfrydig sydd gan Dechrau'n Deg.

"Rydym yn cael cyfle heddiw i gydnabod eu gwaith o ddydd i ddydd yn trawsnewid bywydau pobl''.

Roedd dros 120 o rieni a gofalwyr lleol wedi enwebu staff Dechrau'n Deg a oedd wedi gwneud gwahaniaeth sylweddol i fywydau eu plant.

Disgrifiad o’r llun,

Y Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi, Lesley Griffiths