"Llawer gormod o lyfrgelloedd yn cau"

  • Cyhoeddwyd
Llyfrgell Genedlaethol Cymru

Mae cyn-bennaeth Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn dweud bod llawer gormod o lyfrgelloedd yng Nghymru yn cau.

Mewn cyfweliad gyda Newyddion 9 mae'r cyn-lyfrgellydd Andrew Green yn rhybuddio bod gan gynghorau Cymru ddyletswydd statudol i ddarparu gwasanaeth llyfrgell cynhwysfawr ac effeithiol.

Er ei fod yn cydnabod bod arian yn brin, mae'n rhybuddio bod llawer o bobl yn dibynnu ar lyfrgelloedd sy'n agos i'w cartrefi.

Dywedodd: "Mae llawer o bobl yn defnyddio'r llyfrgelloedd... pobl sydd heb yr adnoddau i brynu llyfrau i'w hunain... neu heb gyswllt â'r rhyngrwyd.

Mae o hefyd yn dweud fod amddifadu pobl o fynediad i lyfrau yn ei gwneud hi'n anoddach i bobl, yn enwedig y difreintiedig, "herio'r bobl mewn grym".

"Os ydych chi'n gofyn wrth bobl beth yw'r lleiafswm (y dylid ei ddarparu)... Rydw i'n amau y byddai hynny'n llai 'na beth sy'n cael ei ddarparu ar hyn o bryd."

Yr angen am arian

Mae Newyddion 9 wedi cysylltu â holl gynghorau Cymru gan ofyn faint o lyfrgelloedd sydd wedi cau - gyda phob cyngor heblaw am dri yn ymateb.

Mae'r cynghorau'n dweud bod 26 o lyfrgelloedd wedi cau yn y bum mlynedd diwethaf. Mae 14 o lyfrgelloedd eraill wedi eu trosglwyddo i'r gymuned leol, gan leihau cyfrifoldeb y cynghorau am eu cynnal. Mae 14 o lyfrgelloedd eraill mewn perygl o gau.

Er ei fod yn canmol y rhan sy'n cael ei chwarae gan wirfoddolwyr, mae Mr Green yn rhybuddio y bydd llyfrgelloedd yn parhau i fod angen arian - hyd yn oed os ydyn nhw'n cael eu rhedeg gan bobl leol.

"Os ydi'r tap ariannol yn cael ei ddiffodd...pa adnoddau sydd ar gael i unrhyw un redeg y gwasanaeth llyfrgell - sy'n cael ei awgrymu yng Nghaerdydd", meddai.

Mi wnaeth cynnig yn galw ar i gyngor Caerdydd ailfeddwl eu cynllun i leihau'r arian fydd yn cael ei roi i lyfrgelloedd o £283,000 fethu nos Iau, a hynny o ddwy bleidlais yn unig.