Hybu newyddiaduraeth ddigidol Gymraeg
- Cyhoeddwyd
Mae Canolfan Newyddiaduraeth Gymunedol Prifysgol Caerdydd yn gwahodd cymunedau ledled Cymru i gymryd rhan mewn menter newydd i ddysgu sgiliau newyddiaduraeth a chyhoeddi digidol yn y Gymraeg.
Bwriad 'Digidol ar Daith' yw cynnal sesiynau hyfforddi rhad ac am ddim mewn 12 cymuned, gan annog unrhyw un sydd â diddordeb mewn creu a rhannu newyddion a gwybodaeth yn Gymraeg i gofrestru â'r cynllun.
Mae cylchgrawn Golwg yn rhan o'r ymgyrch, sy'n cael ei gefnogi gan Lywodraeth Cymru.
Y nod yw gweld rhagor o gynnwys Cymraeg o safon uwch ar-lein a chefnogi newyddiaduraeth gymunedol fywiog.
Mae'r gweithdy cyntaf yn cael ei gynnal ddydd Mawrth yn Yr Wyddgrug, cyn symud i leoliadau eraill ledled y wlad, dolen allanol.
Bydd hyfforddiant yn cael ei ddarparu gan Emma Meese, sy'n hyfforddwr Cyfryngau Cymdeithasol i'r BBC yn ogystal â rheolwraig y Ganolfan Newyddiaduraeth Gymunedol, a hefyd gan Dylan Iorwerth, Golygydd Gyfarwyddwr Golwg.
'Hyfforddiant ac ysbrydoliaeth'
Dywedodd Emma Meese, rheolwraig a hyfforddwr y ganolfan:
"Mae hwn yn gyfle gwych i unrhyw un - clwb, grŵp chwaraeon, papur bro neu unigolion - i gael hyfforddiant ac ysbrydoliaeth o'r radd flaenaf ac i gyfarfod pobl o'r un anian â nhw yn eu cymuned.
"Caiff y sesiynau hyfforddi hanner diwrnod eu hategu gan sesiynau tiwtorial ymarferol ar-lein a chanllawiau argraffedig.
"Byddwn yn ymdrin â sgiliau craidd newyddiaduraeth ddigidol ac yn dangos i bobl rai o'r arfau sydd ar gael i hwyluso'r defnydd o gyfryngau cymdeithasol a sianeli digidol o bwys yn y Gymraeg.
"Rydym yn gobeithio y bydd y diwrnod yn bleserus iawn ac y bydd yn ddechrau ar ddatblygiadau gwych."