Y Cymro sy' am greu hanes
- Cyhoeddwyd
Y mis hwn mi fydd Llywydd Cymdeithas Bêl-droed Cymru yn gobeithio bod Y Cymro cyntaf i gael ei ethol yn is-lywydd ar bwyllgor gweithredol FIFA.
Mae hanes Trefor Lloyd Hughes yn ysbrydoliaeth i unrhyw un sy'n ymwneud â phêl-droed.
O fod yn marcio'r cae a gosod y rhwydi i'w glwb lleol Bodedern yn Ynys Môn i fod yn Llywydd Cymdeithas Bêl-droed Cymru, mae hi'n stori anhygoel.
Mae Trefor yn gobeithio y bydd yna bennod arall i'w hadrodd cyn bo hir.
Ar Fawrth 24 yn Fienna yn Awstria mi fydd aelodau UEFA yn pledleisio o blaid un ai Trefor neu David Gill yn is-lywydd ar fwrdd rheoli FIFA wedi'r cyhoeddiad y bydd Jim Boyce o Ogledd Iwerddon yn camu o'r neilltu.
Mae yna wyth is-lywydd ar y bwrdd rheoli ac un o'r rheiny yn cynrychioli Cymru, Lloegr, Yr Alban a Gogledd Iwerddon.
"Doeddwn i erioed yn meddwl y buaswn i'n cyrraedd y lefel yma," meddai Trefor. "Mae'r ffaith fod Cymdeithas Bêl-droed Cymru wedi cynnig fy enw i wneud y swydd yn rhywbeth anhygoel ..."
'Dod o'r gwaelod'
Fe ymunodd â Chyngor Cymdeithas Bêl-droed Cymru yn 1989. Mae wedi bod yn ysgrifennydd Cynghrair Ynys Môn a Chynghrair Cymru Alliancel. Mi oedd hefyd yn gweithio i Wasanaeth Ambiwlans Cymru am dros 30 o flynyddoedd.
"Gan fy mod wedi dod o'r gwaelod mewn ffordd dwi'n teimlo y buaswn yn gallu cynnig rhywbeth gwahanol i FIFA. Tydyn nhw ar y funud ddim yn gwneud digon i ddatblygu'r gêm, yn enwedig o safbwynt pêl-droed ieuenctid."
Mae'n amlwg fod pêl-droed ieuenctid a phêl-droed ar lawr gwlad yn golygu llawer iddo.
"Yn y pen draw, ni fysa clybiau fel Manchester United, Bayern Munich a Barcelona yn llwyddiannus oni bai am y pwyslais sy'n cael ei roi ar yr ieuenctid."
Cydwqeithio
Mi hoffai weld FIFA ac UEFA yn cydweithio'n well efo'i gilydd. Mae angen i FIFA, meddai, fod yn "fwy trylwyr ac yn fwy agored" wedi'r honiadau o lwgrwobrwyo ac o dwyll yn dilyn cais llwyddiannus Qatar i gynnal Cwpan Y Byd 2022.
Cyn brif weithredwr Manchester United David Gill ydi'r ymgeisydd arall. Cymdeithas Bêl-droed Lloegr sydd wedi cynnig ei enw a does dim amheuaeth fod y ddau ymgeisydd o gefndiroedd gwahanol.
"Swydd gyntaf David yn y byd pêl-droed oedd yn Manchester United," meddai Trefor. "Mi oedd o'n gweithio yn y byd ariannol cyn hynny.
"Felly mewn ffordd mae o wedi dechrau reit ar y brig os mynnwch chi tra mod i wedi gweithio fy ffordd i fyny trwy'r system. Ond dwi'n ffyddiog y gallwn i wneud cystal os nad gwell swydd na fo."
Os bydd Trefor yn llwyddiannus, fo fydd Y Cymro cyntaf i gael ei benodi'n is-lywydd FIFA.
Ond tydi o ddim yn poeni o gwbl am lwyddiant personol. Y peth pwysicaf iddo ydi profi i bawb fod yna le i fudiad bach fel un Cymru ar fwrdd FIFA i helpu weinyddu'r gêm yn fyd-eang.