Mesur llesiant: 'Dim pwrpas clir'

  • Cyhoeddwyd
Ardal difreintiedigFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae cyfraith sy'n ceisio gwella safon bywydau pobl yng Nghymru wedi ei beirniadu am beidio bod â "phwrpas clir".

Mae Lee Waters, cyfarwyddwr y Sefydliad Materion Cymreig wedi cyhuddo gweinidogion o "greu'r" Bil Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol "wrth iddyn nhw fynd yn eu blaenau".

Mae Mr Waters, sy'n ymgyrchu dros bwerau deddfu llawn i Gymru, wedi honni bod modd cyflawni llawer heb ddeddfwriaeth.

Dywedodd Llywodraeth Cymru bod y "bil sy'n torri tir newydd" yn rhoi Cymru ar "flaen y gad o ran datblygiad cynaliadwy".

'Blaen y gad'

Dywedodd Mr Waters bod y bil "yn astudiaeth achos yn dangos beth sydd o'i le yn y ffordd mae cyfreithiau'n cael eu creu yng Nghymru".

"Y rheswm pam ein bod ni wedi gweld dryswch yn y Cynulliad yw nad oes digon o ystyriaeth wedi i'w roi i'r bil hwn a beth mae'r bil yn ceisio'i gyflawni," meddai.

Ychwanegodd: "Mae hyn yn golygu bod gennym ni fil ansicr, aneglur."

Ym mis Chwefror, mi wnaeth pwyllgor amgylcheddol y cynulliad bleidleisio i gael gwared ar rannau helaeth o'r mesur, ond mi wnaethon nhw hefyd wrthod rhannau i'w rhoi yn eu lle.

Yn flaenorol, roedd y pwyllgor wedi galw ar i'r mesur gael ei ail-ysgrifennu er mwyn sicrhau eglurder ac effeithiolrwydd.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Rydym yn rhoi Cymru wrth flaen y gad o ran datblygu cynaliadwy, a hynny drwy'r bil sy'n torri tir newydd", gan ychwanegu "bod ein hagwedd gydweithredol wedi creu gwell bil".

Bydd y mesur yn cael ei drafod yn y Senedd ddydd Mawrth.