Y tweet Cymraeg cyntaf

  • Cyhoeddwyd
Trydar Cymraeg

Yn ystod cynhadledd technoleg Cymraeg Haciaith ym Mangor ar 7 Mawrth, cafodd nifer o gwestiynau eu codi a chafodd nifer o syniadau arloesol eu datgelu

O system gyfieithu ar y pryd O Glust i Glust, sydd yn defnyddio ap ffôn symudol yn lle offer cyfieithu drud, at brosiect Cynefin, dolen allanol y Llyfrgell Genedlaethol, sy'n digideiddio hen fapiau degwm Cymru o ganol y G19.

Roedd yna drafodaeth hefyd am sut i gael Cymry i ddefnyddio'r Gymraeg ar y we a sut i annog cwmnïau i gynnwys y Gymraeg yn eu gweithdrefnau.

Rhywle yng nghanol y trafod difrifol mi gododd gwestiwn llawer mwy pwysig. Pwy bostiodd y neges Gymraeg gyntaf ar Twitter?

Disgrifiad o’r llun,

Mei Gwilym: Y trydarwr Cymraeg cyntaf... am gyfnod

Mei ar y blaen

Mae golygydd Ffrwti, dolen allanol, Rhodri ap Dyfrig wedi cyhoeddi doethuriaeth ar ddefnydd y Gymraeg ar y we ac mi ddarganfyddodd yn wreiddiol taw Mei Gwilym, datblygwr gwe llawrydd o'r Felinheli oedd yn gyfrifol am y neges drydar gyntaf yn cynnwys y Gymraeg.

Daethon ni o hyd i Mei yn y gynhadledd a gofyn am yr hanes. Meddai:

"Aeth Twitter yn eithaf poblogaidd tua Haf 2006 a gwnes i ddechrau cymryd diddordeb tua mis Medi ond wnes i ddim ymuno tan 23 Mawrth 2007. Roedd fy nhrydar cyntaf yn un dwyieithog ac yn dweud rhywbeth fel... "Newydd gofrestru, pa mor hir bydd hyn yn para'?"

Nôl at Rhodri

Felly at Rhodri ap Dyfrig wnaeth enwi tweet Mei fel y cyntaf, neu felly oedd e'n credu:

"Wnes i ffeindio tweet Mei drwy wefan Indigenous Tweets, dolen allanol sydd yn olrhrain tweets mewn amryw o ieithoedd lleiafrifol gwahanol. Ar y pryd dyna oedd yr unig ffordd i ni fynd yn ôl yn bellach na thri mis ar Twitter gan nad oedd y wefan yn gadael i chi dracio ymhellach nôl na hynny. Wedyn mis Rhagfyr, wnaeth Twitter ei agor fyny i'ch galluogi chi i dracio nôl ymhellach, at y cychwyn.

Disgrifiad o’r llun,

Rhodri ap Dyfrig, golygydd Ffrwti

"Felly beth wnes i oedd ffeindio termau defnyddiol Cymraeg a'u rhoi nhw mewn i search Twitter. Pethau fel 'penblwydd hapus', 'blwyddyn newydd dda', 'trydar', 'trydaru'.

"Gyda llaw, y term hashnod,, dolen allanol am # - dim ond yn 2012 dyfeisiwyd y term wedi sgwrs lle roedd nifer o enwau adnabyddus yn trafod pa derm i'w ddefnyddio. Yn y diwedd Hedd Gwynfor wnaeth fathu'r term 'hashnod', a dyna 'da ni'n ei ddefnyddio hyd heddiw."

A'r enillydd?

Felly nôl at y neges drydar gyntaf yn Gymraeg... beth sydd ar y blaen ar hyn o bryd? Dyma Rhodri eto:

"Y trydar cyntaf alla'i ddod ar ei draws yw hwn gan rhywun o'r enw Mr Jason wnaeth drydar, dolen allanol neges Nadolig Llawen aml-ieithol ar Rhagfyr 20, 2006... ond y Gymraeg sydd yn gyntaf. Dim ond 38 neges wnaeth o'i drydar erioed, a honna oedd ei neges olaf ef... neu hi!"

Felly ai dyna ddiwedd y daith? Ydych chi'n gwybod am neges drydar Gymraeg gynharach? Pwy oedd Mr Jason? Mae'r stori yn parhau!

Os oes ganddoch chi atebion i unrhyw un o'r uchod cysylltwch â ni:

cymrufyw@bbc.co.uk

@BBCCymruFyw

Disgrifiad o’r llun,

Y neges Gymraeg gyntaf?

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol