'Angen gwneud mwy i annog amrywiaeth'
- Cyhoeddwyd
Bydd cyfarwyddwr BBC Cymru, Rhodri Talfan Davies, yn dweud wrth gynhadledd yng Nghaerdydd ddydd Llun bod angen i'r diwydiannau creadigol yng Nghymru, gan gynnwys y BBC, weithio'n galetach i gael gwared ar y camargraff bod 'y drws ar gau'.
Yn ei araith i Gynhadledd Flynyddol Cydraddoldeb Hiliol Cymru Gyfan bydd yn disgrifio'r her sy'n wynebu'r diwydiant a sut mae'r BBC yn bwriadu denu gweithwyr o wahanol gefndiroedd a chymunedau sydd wedi eu tan-gynrychioli ar draws Cymru.
Wrth siarad yng Nghanolfan Mileniwm Cymru bydd yn dweud bod sicrhau gwell cynrychiolaeth yn hanfodol ar gyfer llwyddiant a thwf y sector creadigol.
Bydd yn dweud: "Mae arloesedd a chreadigrwydd yn ffynnu ar wahaniaeth, her, meddwl yn radical ac anghydffurfio.
"Os ydym am berfformio hyd gorau ein gallu, mae angen edrych am weithwyr fydd yn ein galluogi i dorri tir newydd a chael gwared ar yr hen drefn."
Ar hyn o bryd dim ond 1% o'r bobl sy'n gweithio yn y diwydiannau creadigol sy'n perthyn i gefndir Du, Asiaidd neu Ethnig Leiafrifol (BAME), er gwaethaf y ffaith bod y cymunedau yma'n cynrychioli tua 4% o'r boblogaeth.