Dementia: Ap yn cynnig cymorth
- Cyhoeddwyd
Mae ap newydd ar gyfer pobl sy'n dioddef o ddementia gafodd ei ddatblygu gan gwpl o Rhuthun wedi cael ei ganmol gan arbenigwr blaenllaw yn y maes.
Dywed Tom a Kathy Barham o Rhuthun eu bod wedi treialu'r ap - 'Book Of You' - mewn cartrefi gofal a chanolfannau dydd a'i fod "wedi profi'n llwyddiant aruthrol".
Dywedodd yr Athro Bob Woods o Brifysgol Bangor fod yr ap yn cynnig gwasanaeth arloesol.
Mae'r ap yn defnyddio lluniau, fideo a cherddoriaeth er mwyn helpu pob a dementia i gofio digwyddiadau o'r gorffennol.
Dywedodd yr Athro Woods, Athro mewn seicoleg glinigol pobl hŷn: "Un o'r pethau gwych am Book Of You yw'r modd mae'n defnyddio'r cyfrwng digidol i ddod a bywyd i luniau a geiriau, byddai hynny ddim yn bosib gyda llyfr.
"Ac wrth ychwanegu fideo a cherddoriaeth mae'r holl beth yn gwbl arbennig."
Cwmni nid er mwyn elw Book of You CIC sy'n gyfrifol am y cynllun, ac mae unrhyw elw yn cael ei fuddsoddi yn ôl prosiect gyda'r gobaith o ddarparu'r gwasanaeth ledled y DU.
Atgofion
Dywedodd Kathy Barham: "Mae'r llyfr wedi helpu defnyddwyr i adfer rhai'r o'r profiadau sy'n gyfrifol am siapio eu bywydau."
"Gallai hynny amrywio o bethau cyffredin, fel y math o gerddoriaeth oedd rhywun yn hoffi o ddydd i ddydd, i ddigwyddiadau cofiadwy ac anghyffredin, fel cwrdd ag aelod o'r teulu brenhinol neu deithio'r byd."
Yn ôl yr Athro Woods fe allai'r ap fod o fydd yn enwedig i bobl sy'n newydd ddechrau dioddef gyda'r cyflwr.
"Fe allant fynd ati i lunio ac adrodd stori eu bywyd eu hunain," meddai.
"Mae ymchwil yn awgrymu fod mynd ati i adrodd stori hanes yn arwain at well safon o fywyd i bobl sydd â dementia, ac yn ôl y teulu mae o hefyd yn gwella safon perthynas o fewn y teulu."