Heddlu'r Gogledd yn rhybuddio beicwyr modur
- Cyhoeddwyd
Mae ymgyrch sydd wedi'i anelu at leihau nifer y marwolaethau ac anafiadau difrifol yn ymwneud â beicwyr modur ar ffyrdd gogledd Cymru yn cychwyn ddydd Gwener.
Fe fydd 'Ymgyrch Darwen' yn cael ei gynnal rhwng cyfnod y Pasg a dechrau'r hydref ac mae wedi'i anelu at godi ymwybyddiaeth ynglŷn â diogelwch beicwyr modur.
Ers blynyddoedd lawer, mae nifer fawr o feicwyr yn ymweld â gogledd Cymru yn ystod misoedd yr haf oherwydd natur heriol y ffyrdd, a'r rheiny mewn ardaloedd o harddwch naturiol fel Eryri.
Yn ôl Heddlu Gogledd Cymru, mae beicwyr modur yn fwy tebygol o gael eu lladd neu eu hanafu'n ddifrifol ar y ffyrdd nag unrhyw ddefnyddwyr ffyrdd eraill.
Er mai dim ond 1% o holl ddefnyddwyr y ffordd fawr sy'n defnyddio beiciau modur, maent yn gyfrifol am 18% o'r holl farwolaethau.
Cynnydd mewn marwolaethau
Dywedodd Prif Arolygydd Darren Wareing, sy'n gyfrifol am Uned Plismona'r Ffyrdd Gogledd Cymru fod cynnydd wedi bod yn nifer y gwrthdrawiadau angheuol ac anafiadau difrifol ar ffyrdd yr ardal.
"Un o'r pryderon mwyaf sy'n dod i'r amlwg yma ac yn genedlaethol yw bod beicwyr yn cael eu dal yn gyrru ar ôl bod yn yfed neu'n gyrru o dan ddylanwad cyffuriau.
"Tra bod mwyafrif y beicwyr modur yn reidio mewn modd priodol, mae rhai yn defnyddio'r ffyrdd fel rhywle i rasio ac yn torri deddfwriaethau diogelwch y ffyrdd mewn modd difrifol.
"Mae rhai yn goryrru ac yn gyrru'n beryglus gan achosi perygl o farwolaeth neu anafiadau difrifol iddyn nhw eu hunain neu ddefnyddwyr eraill y ffyrdd."
Datblygu sgiliau
Yn ystod yr ymgyrch, fe fydd beicwyr yn cael eu hannog i fanteisio ar y cyfle i ddatblygu eu sgiliau drwy fynychu un o weithdai Beicio Diogel yr Heddlu, sydd am ddim.
Mae Beicio Diogel yn gynllun cenedlaethol a gynhelir gan heddluoedd gyda'r nod o leihau nifer y damweiniau beic modur.
Fel rhan o'r ymgyrch bydd swyddogion hefyd yn gwirio teiars gan fod teiars anghyfreithlon a rhai sydd heb ddigon o aer ynddynt wedi bod yn broblemau amlwg yn y gorffennol.