Godwin a Gotcha

Yn ôl yn nyddiau cynnar iawn y rhyngrwyd fe luniodd cyfreithiwr o'r enw Mike Godwin y rheol sy'n dwyn ei enw hyd heddiw. Dyma'r fersiwn gwreiddiol o 1990.

"As an online discussion grows longer, the probability of a comparison involving Nazis or Hitler approaches 1"

Ar sail Rheol Godwin fe gyflwynodd nifer o grwpiau trafod Usenet reol arall sef bod unrhyw gymhariaeth a Nasiaeth yn dirwyn y drafodaeth i ben. Erbyn hyn y fersiwn fwyaf poblogaidd o'r rheol yw hon.

"The first person to call the other a Nazi automatically loses the argument."

Un mlynedd ar ddeg ar ôl i Godwin lunio ei reol fe ddisgrifiodd yr awdur Mike Parker rai o'r bobl oedd yn symud i mewn i'r Gymru wledig ar y pryd fel "gun-toting Final Solution crackpots".

Mae Mr Parker, sy'n sefyll dros Blaid Cymru yng Ngheredigion yn cyfaddef bod yr iaith yn amrwd ond mae'n mynnu bod y pwynt yn un dilys ar y pryd.

Fe wnaf i adael i chi benderfynu p'un ai ydy geiriau Mr Parker yn haeddu'r disgrifiad "Nazi Slur" sydd ym mhennawd rhifyn cyfredol y Cambrian News. Pwynt arall sy gen i.

Rydym yn clywed cwynion byth a hefyd am dwf y dosbarth o wleidyddion proffesiynol - pobl sy'n mynd yn syth o goleg i fod yn ymchwilwyr, cynghorwyr arbennig ac yna'n Aelodau Seneddol neu Gynulliad.

Mae angen rhagor o bobl go iawn, pobl sydd wedi byw yn y byd do iawn yw'r gri gyson.

Y broblem yw hyn. Dyw pobl felly ddim wedi bod yn gwylio pob gair a gweithred gydag un llygad ar y meinciau gwyrddion ac o balu o gwmpas mae'n ddigon posib dod o hyd i rwy stori i'w defnyddio yn eu herbyn.

Mae modd sicrhau mantais wleidyddol fyr dymor trwy wneud hynny ond mae 'na bris posib i'w dalu sef eu gwneud hi'n llai tebygol y bydd y 'bobl go iawn' yna yn mentro i fyd gwleidyddiaeth.