Taro'r Post
- Cyhoeddwyd
- comments
Tair wythnos i fynd felly cyn i ni fwrw ein pleidleisiau - os nad ydych chi wedi bwrw eich pleidlais yn barod wrth gwrs!
Un o'r newidiadau mwyaf yn ein cyfundrefn etholiadol yn ystod y blynyddoedd diwethaf yw'r cynnydd enfawr yn y nifer sy'n dewis bwrw pleidlais post. Yn ôl yn 1997 dim ond 2.3% o'r pleidleisiau oedd wedi eu postio i mewn. Erbyn 2010 roedd y canran wedi cyrraedd 18.8%.
Nid ar hap a damwain y digwyddodd hynny. Cyn 2001 doedd sicrhau pleidlais bost ddim yn beth hawdd. Roedd rhaid rhoi rheswm dilys am ofyn ac os nad oeddech chi'n oedrannus, yn anabl neu'n gweithio bant 'na chewch' fyddai'r ateb yn amlach na pheidio.
Ymdrech i gynyddu'r canran oedd yn pleidleisio oedd y penderfyniad i roi'r opsiwn o bleidleisio trwy'r post i bawb ac yn ôl y mesur mwyaf amlwg mae hynny wedi llwyddo. Yn 2010 dychwelwyd 80% o'r papurau a ddanfonwyd allan mewn etholiad lle bleidleisiodd 65.1% o'r etholwyr.
Ond dyw pethau ddim yn fêl i gyd. Mae'r gyfundrefn bost wedi arwain at gynnydd mewn achosion o dwyll etholiadol ac mae hwnnw yn ei dro wedi arwain at newid yn y ffordd mae'r gofrestr etholiadol yn cael ei llunio. Mae'r cyfrifoldeb am gofrestru bellach ar ysgwyddau pob unigolyn yn hytrach na'r penteulu.
Mae hynny'n ein gadael mewn sefyllfa eleni lle mae'n debyg y bydd llawer llai o bobl ar y gofrestr na ddylasai fod ond lle bydd canran uwch o'r rheiny sydd wedi eu cofrestri yn bwrw eu pleidlais.
Oes angen dweud mai'r rheiny sydd newydd droi eu deunaw a'r rheiny sy'n byw bywydau symudol yw'r mwyaf tebygol o syrthio trwy'r rhwyd?
Mae'r cynnydd yn y bleidlais bost wedi newid yr holl rythm etholiadol gyda'r pleidiau i gyd yn gorfod ceisio cyrraedd dau uchafbwynt yn ystod yr ymgyrch - y cyntaf wrth i'r pleidleisiau post gael eu danfon allan a'r ail ar y diwrnod ei hun. Dyna' rheswm y mae'r rhan fwyaf o'r pleidiau wedi dewis lansio eu maniffestos yr wythnos hon.
Mae'r cyfnod bach yma'n arbennig o bwysig i Lafur. Mae'r blaid honno, yn fwy na'r lleill, wedi ymdrechu'n galed i ddarbwyllo ei chefnogwyr i fwrw pleidlais gynnar. Os ydych chi'n un o'r rheiny sydd wedi derbyn gohebiaeth etholiadol rhadbost swyddogol gan Lafur yn barod ac yn dal i ddisgwyl gohebiaeth y pleidiau eraill - dyna i chi'r rheswm.
Mae hi hefyd yn un o'r rhesymau, dybiwn i, fod Llafur wedi cytuno i gymryd rhan yn nadl y gwrthbleidiau heno. Ed ar y bocs a'r papur pleidleisio ar eich clun yw'r gobaith, am wn i!
Fe gawn gyfle i drafod sut aeth hi yfory!