Perffaith Chwarae Teg
- Cyhoeddwyd
- comments
Efallai mai'r olygfa fwyaf dadlennol yn nadl y gwrthbleidiau neithiwr oedd honno ar y diwedd lle gafodd y tair gwraig oedd ar y llwyfan gwtsh cyfeillgar cyn troi i ysgwyd llaw'n gwrtais ac Ed Miliband. Ar ben arall y llwyfan gadawyd Nigel Farrage fel yr un dyn bach ar ôl.
Sut mae mesur llwyddiant yr arweinwyr felly? Gadewch i ni gychwyn gyda Ed Miliband. Rwyf wedi bod yn llais cymharol unig o'r dechrau wrth ddadlau bod penderfyniad yr arweinydd Llafur i dderbyn y gwahoddiad i ddadl neithiwr yn un doeth.
Rwy'n meddwl fy mod wedi cael fy mhrofi'n gywir. Mae parodrwydd Mr Miliband i dderbyn pa bynnag fformat y mae'r darlledwyr yn cynnig wedi adlewyrchu'n dda arno fe ac mae'n amlwg o'r arolygon bod canfyddiad yr etholwyr o'r arweinydd Llafur yn raddol newid o'i blaid. Mae'n ymddangos mai gorau po fwyaf y'r dacteg orau pan ddaw hi'n fater o ymddangosiadau teledu gan Mr Miliband.
Mae'n amlwg bod Nicola Sturgeon, Leanne Wood a Natalie Bennett yn hapus a'u perfformiad hefyd. Sut arall mae esbonio'r cwtsh? Ond dyma i chi gwestiwn bach. Ydy strategwyr y blaid Lafur yn dawel falch ynghylch perfformiad arweinydd yr SNP? Cyn i chi rythu at y sylw yna - gadewch i mi esbonio.
Mae'n amlwg bod paentio'r SNP fel bwgan yng Nghymru a Lloegr yn rhan ganolog o strategaeth y Ceidwadwyr. Ond mae'n ymddangos nad yw Ms Sturgeon yn dod drosodd fel ffigwr fygythiol yn yr un modd ac y byddai Alec Salmond, dyweder. Gallai hynny fod yn benbleth i'r Torïaid.
Mae hynny'n dod a ni at yr eiliad ddadlennol arall yn y ddadl sef honno lle wnaeth Nigel Farrage droi ar y BBC am ddewis cynulleidfa asgell chwith. Nawr rwyf wedi bod yn glwm a'r pethau yma ers blynyddoedd a medraf ddweud wrthoch chi â sicrwydd perffaith y byddai aelodau'r gynulleidfa neithiwr wedi eu dewis a'u dethol yn hynod ofalus i fod yn gynrychioladol o'r cyhoedd. Rwyf hefyd yn sicr bod Mr Farrage yn credu'r hyn y dywedodd e ond rwy'n amau ei fod yn twyllo'i hun.
Un o'r camgymeriadau mwyaf cyffredin mewn gwleidyddiaeth yw'r credu eich bod yn cynrychioli rhyw fath o fwyafrif mud oherwydd bod pawb yn eich cylchoedd chi'ch hun yn credu'r un peth a chi. Rwy'n amau bod arweinydd Ukip a'i gefnogwyr wedi syrthio i'r trap arbennig yna.
Y diwethaf i wneud hynny oedd Michael Howard yn etholiad 2005. Roedd Mr Howard yn argyhoeddedig y byddai ymgyrch wedi ei seilio ar y slogan "Are you thinking what we're thinking?" yn llwyddo. "Not really" oedd ateb yr etholwyr!
Gyda llaw, dyn o'r enw Lynton Crosby oedd yn gyfrifol am yr ymgyrch yna. Beth ddigwyddodd iddo fe, tybed?