O, Na John, Na John, Na
- Cyhoeddwyd
- comments
Un o fy hoff ffeithiau ynghylch yr etholiad hwn yw y bydd rhai miloedd o bobl gafodd eu geni ar ôl i Tony Blair gael ei ethol yn Brif Weinidog yn bwrw eu pleidleisiau ar Fai'r 7fed. Oce, dim ond gwerth wythnos sydd 'na ohonyn nhw, ond mae babis Blair yn dechrau cyrraedd eu llawn dwf.
Go brin fod yr enw John Major yn golygu rhyw lawer i'r bobol hynny ac erbyn hyn mae'n debyg nad yw'r rhan fwyaf ohonom yn cofio rhyw lawer yn ei gylch. Pys, pants a Maastricht fydd ar ei garreg fedd, dybiwn i.
Hawdd yw anghofio felly bod y Ceidwadwyr o dan arweinyddiaeth Major wedi ennill 14,093,007 o bleidleisiau yn 1992 - y cyfanswm mwyaf i unrhyw blaid yn hanes y wladwriaeth hon.
Mae'n amlwg bod y Ceidwadwyr yn credu bod gan Major ei apêl o hyd. Ar adegau pwysig gallwch ddibynnu ar y cyn Brif Weinidog i "ymyrryd" a hynny, bob tro, mewn ffordd sy'n ffafriol i'w blaid. Da was da a ffyddlon.
Dyma fe yn 2010 , dolen allanolyn dadlau bod yn rhaid sicrhau mwyafrif Ceidwadol er mwyn osgoi'r 'llanast' fyddai'n ganlyniad anochel senedd grog.
"...a hung parliament would be very bad for Britain. Bickering, deal-making, deal-breaking, trade-offs and key decisions delayed. We'd get a legislative programme no-one voted for - decided purely on the basis of changing the electoral system to benefit the Lib Dems. That is no way to run our country."
Nawr beth bynnag y gellir ei ddweud ynghylch llywodraeth David Cameron roedd hi'n llywodraeth gymharol sefydlog ac unedig - ddim byd tebyg i'r hyn a broffwydwyd gan Syr John.
Heddiw mae fe wrthi hi eto - unwaith yn rhagor yn rhybuddio am beryglon senedd grog. Yr SNP, nid y Democratiaid Rhyddfrydol, yw'r peryg y tro hwn.
"At the very moment our country needs a strong and stable government, we risk a weak and unstable one - pushed to the left by its allies, and open to a daily dose of political blackmail."
Yr un yw'r ddadl yn 2015 a 2010 - yr unig ffordd i osgoi llanast ac anrhefn yw trwy ethol llywodraeth Geidwadol fwyafrifol.
Wrth gwrs dyw hyd yn oed y Ceidwadwr mwyaf optimistaidd ddim yn credu bod mwyafrif sylweddol yn bosib ar Fai'r 7fed.
Sut beth fyddai llywodraeth Geidwadol â mwyafrif bychan felly? Yn ffodus gall profiad fod yn athro i ni yn fan hyn.
Rhai degawdau yn ôl nawr cafodd llywodraeth Geidwadol ei hethol gyda mwyafrif o 21 sedd. Fe brofodd honno i fod yn llywodraeth ranedig ar ofyn aelodau meinciau cefn oedd yn obsesiynol ynghylch Ewrop. Cymaint oedd yn anrhefn nes i'w Prif Weinidog orfod rhoi ei ben ar y bloc mewn ymgais i ailsefydlu ei awdurdod a thewi ei feirniaid.
Ydy Syr John yn cofio'r llywodraeth honno? Fe ddylasai fe. Fe oedd yn ei harwain hi, wedi'r cyfan!