Dadlau'n Deg

  • Cyhoeddwyd
  • comments

Rwy'n petruso braidd ynghylch postio rhywbeth a allasai'ch darbwyllo i beidio gwylio Newyddion Naw a'r Sgwrs o Gaerfyrddin heno ond draw ar ITV fe fydd rhaglen yn cael ei darlledu sy'n ddiddorol am sawl rheswm. Am ddwy awr rhwng wyth a deg fe fydd dadl wleidyddol Gymreig yn cael ei darlledu. "The Wales Election Debate" yw enw'r rhaglen ac fe ddof yn ôl at yr enw yna mewn munud.

Cyn gwneud hynny mae'n werth nodi mai hwn yw'r Etholiad Cyffredinol cyntaf lle mae ITV Cymru wedi clustnodi dwy awr yn yr oriau brig ar gyfer dadl o'r fath. Mae'r BBC wedi cymryd penderfyniad cyffelyb ac fe ddarlledir ein dadl ni wythnos nesaf.

Mae'n bosib y bydd y ddwy raglen yma yn golygu bod 'na sglein ychydig yn fwy Cymreig ar yr Etholiad Cyffredinol yng Nghymru eleni. Dydw i ddim am or-ddweud ynghylch hynny ond fe ddylai'r newid olygu y bydd mwy o bobl wedi clywed dadleuon penodol Cymreig cyn bwrw eu pleidlais.

Ond yn ôl a ni at yr enw. Sylwer mai "The Wales Election Debate" yw hon nid "The Wales Leaders' Debate". Mae'r esboniad am hynny'n ddigon syml. Fe fydd dau o'r bobol yr ydym gan amlaf yn eu disgrifio fel arweinwyr eu pleidiau yng Nghymru yn absennol. Stephen Crabb ac Owen Smith fydd yn cynrychioli'r Ceidwadwyr a Llafur nid Andrew R.T Davies a Carwyn Jones.

Y pleidiau sydd wedi gwneud y penderfyniad hwnnw nid y darlledwyr ac mae'n ddiddorol nodi bod y ddwy blaid yn yr Alban wedi penderfynu'n wahanol. Ruth Davidson a Jim Murphy, eu darpar Prif Weinidogion Albanaidd, oedd yn eiriol ar ran eu pleidiau yno.

Llefarwyr wedi eu penodi gan David Cameron ac Ed Miliband yw Mr Crabb a Mr Smith. Cafodd Mr Davies a Mr Jones eu hethol gan aelodau eu pleidiau. Pam felly mae'r ddwy blaid yn eu trin fel arweinwyr grwpiau cynulliad yn hytrach na fel arweinwyr plaid?

Dydw i ddim yn gwybod yr ateb i'r cwestiwn yna.