Cymera hon, Cameron
- Cyhoeddwyd
- comments
Dyna ni felly. Heb os roedd Etholiad Cyffredinol 2015 yn un i'r llyfrau hanes ond rwy'n meddwl fy mod wedi dweud popeth sy gen i ddweud yn ei gylch mewn llefydd eraill!
Un peth sy'n sicr mae 'na gyfnod cythryblus a chyffrous o'n blaenau ac nid yn unig oherwydd bod etholiad cyffredinol Cymru ar y gorwel.
Mae'r ffaith bod y Ceidwadwyr wedi ennill mwyafrif o gwbwl wedi ein dallu i ba mor fach a bregus yw'r mwyafrif hwnnw. Yn ôl yn 1992 mwyafrif o 21 oedd gan John Major ac roedd hwnnw wedi diflannu i bob pwrpas erbyn diwedd ei gyfnod yn Downing Street. Mae 'na lai o hen stejars ar y meinciau Ceidwadol y dyddiau hyn ond mae hi bron yn sicr y bydd salwch a sgandal yn golygu y bydd mwyafrif Cameron yn diflannu ymhell cyn yr etholiad nesaf.
Hyd yn oed cyn hynny mae 'na amheuon sylweddol ynghylch gallu David Cameron i gyflawni bob un o'i addewidion deddfwriaethol. Oes 'na fwyafrif yn Nhŷ'r Cyffredin heb sôn am Dŷ'r Arglwyddi i bethau fel dileu'r Deddf Hawliau Dynol a chynyddu pwerau'r gwasanaethau cudd? Rwy'n amau hynny'n fawr.
Wrth gwrs mae'n bosib na fydd David Cameron yn poeni gormod ynghylch colli ambell i bleidlais. Ar y cyfan mae'r mesurau a allai fethu yn rhai yr oedd y Ceidwadwyr yn fodlon eu haberthu mewn trafodaethau clymblaid. Fe ddylai'r mwyafrif ar gyfer polisïau craidd, y refferendwm ar Ewrop, er enghraifft, brofi'n fwy gwydn.
Y refferendwm hwnnw, mae'n debyg, fydd wrth galon y ddadl wleidyddol dros y ddwy flynedd nesaf er bod Ewrop yn bwnc oedd yn rhyfedd o absennol o'r ymgyrch sydd newydd ddod i ben.
Mae'n ddigon posib y cynhelir y bleidlais honno rhywbryd tua diwedd 2016 gan olygu y bydd flwyddyn nesaf yn loddest arall i'r rheiny sydd, fel fi, yn mwynhau'r pethau yma!
Bant a ni!