Bywyd newydd i safle ffatri ffrwydron Cookes
- Cyhoeddwyd
Mae'r mudiad plant a phobl ifanc, Gwerin y Coed, yn gobeithio dod â bywyd newydd i safle ffatri ffrwydron Cookes Penrhyndeudraeth, neu Gwaith Powdwr fel y'i gelwir yn lleol.
Ddydd Sadwrn mae arddangosfa o hen luniau ac eitemau o'r safle ar lwyfan Neuadd Goffa Penrhyndeudraeth.
Bydd y plant a phobl ifanc hefyd yn lansio prosiect fydd yn ceisio cynnal gweithgareddau newydd yn y Gwaith Powdwr.
Mae'r safle erbyn hyn yn un o warchodfeydd natur Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Gogledd Cymru ac mae pobl ifanc Gwerin wedi bod yn defnyddio'r lle ar gyfer gweithgareddau awyr agored a natur yn ddiweddar.
'Prosiect cyffrous'
Yn ôl Llinos Griffin, Swyddog Grwpiau Newydd Gwerin y Coed, mae'n gyfle gwych i ddod â chyn-weithiwyr y ffatri - a fu unwaith yn cyflogi dros 700 - a chenhedlaeth newydd o bobl ifanc ynghyd er mwyn dehongli pwysigrwydd hanes y lle i'r gymuned leol, tra hefyd yn rhoi pwyslais anferth ar y dyfodol.
"Yn ystod y prosiect cyffrous hwn bydd plant a phobl ifanc yr ardal yn ymweld â'r gorffennol drwy ffilmio cyfweliadau gyda'r cyn-weithwyr.
"Bydd hefyd yn ehangu ar sgiliau a chyfleon i'r bobl ifanc drwy ddod ag arbenigwyr a gwirfoddolwyr i Gwaith Powdwr i wneud defnydd llawn o'r bywyd gwyllt ar y safle yn ogystal â chreu cyfleon chwaraeon awyr agored.
"Rydym ar hyn o bryd yn chwilio am wirfoddolwyr i ddod yn rhan o'r gweithgareddau - boed hynny unwaith neu'n gyson. Mae'n wych y gall pawb ddod yn rhan o'r prosiect hwn."