Seithfed nef i'r iaith yn Wrecsam?
- Cyhoeddwyd
Cafodd canolfan Gymraeg Saith Seren yn Wrecsam ei hachub yn ddiweddar ar ôl ymgyrch lwyddiannus i godi'r arian oedd ei angen i gadw drysau'r dafarn ar agor. Roedd Aled Lewis Evans ymhlith y criw sefydlodd y ganolfan. Mae'n trafod gyda Cymru Fyw y camau nesa' i sicrhau bod Saith Seren a'r iaith Gymraeg yn ffynnu yn yr ardal:
Canolbwynt i'r Gymraeg
Does dim rhaid gwrando ar linellau fel "Dw i byth yn clywed Cymraeg yn Wrecsam" a "Does 'na unman i mi ymarfer fy Nghymraeg ar ôl gadael ysgol" bellach.
Ddim ers tair blynedd a hanner pan agorwyd Saith Seren fel pwynt cyswllt byw efo'r iaith i bobl ardal Wrecsam, ac i ymwelwyr a newydd-ddyfodiaid i'r dref hefyd.
Mae pobl yn dechrau dod i'r arfer o droi at Saith Seren fel man cyswllt cyntaf efo'r iaith. Roedd yn braf gweld Cymdeithas Gymraeg Prifysgol Glyndŵr yn cynnal eu pwyllgor cyntaf yno un noson.
A dyna fan cyswllt egnïol ydy Saith Seren. Ar adeg yn dilyn dwy flynedd o weithgaredd di-dor efo Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam a'r Fro - pan oedd pawb yn edrych ymlaen at flwyddyn dawelach - fe welodd rhai fel Marc Jones yn bell, a'r angen i fanteisio ar lwyddiant diwylliannol digamsyniol ac apêl eang yr ŵyl honno.
"Corwynt a chwrligwgan"
Crëwyd Canolfan Gymraeg Saith Seren. Fe fu'n dair blynedd a hanner o gorwynt a chwrligwgan o safbwynt digwyddiadau Cymraeg ac adloniant.
Hyn law yn llaw â gweithgaredd prysur cymdeithasau cydnabyddedig Wrecsam ar hyd y blynyddoedd megis Cymdeithas Owain Cyfeiliog, Cymdeithas y Capeli Cymraeg, Clwb Dysgwyr Ardal Wrecsam (DAW), Clwb Meibion Maelor, Merched y Wawr.
I gyd-gerdded efo Cymreictod y capeli a gweithgareddau'r ysgolion Cymraeg bellach fe ddaeth Saith Seren yn gydymaith.
Credaf fod cefnogaeth gan groesdoriad eang o bobl, ac roedd nosweithiau a drefnwyd gan yr Urdd yn ddiweddar yn dangos bod dechrau ar gysylltiad bellach efo pobl ifanc yr ardal - dyfodol yr iaith yn ein bröydd.
Fe fu'n siwrne heb ei hail hyd yma - artistiaid gorau Cymru yn gyson yn perfformio, ac yn llwyddo i chwalu hen agweddau oes yr arth a'r blaidd am gynnal pethau mewn tafarnau.
Llwyddwyd i gyflwyno (gydag ewyllys da gwirfoddolwyr) holl dapestri eang y diwylliant Cymraeg. Ond mae dal angen mewnbwn gan wahanol unigolion, cymdeithasau lleol ac asiantaethau ar gyfer y dyfodol sydd o'n blaenau.
Her nesaf y chwyldro yn Wrecsam fydd harneisio cymorth gan gynnyrch addysg Gymraeg y degawdau diwethaf.
Mae'n bryd i'r rhai sydd yn eu hugeiniau a'u tridegau rŵan wynebu'u cyfrifoldeb at yr iaith a helpu mwy, i siapio'r lle i'w dibenion eu hunain, gan mai hwy toc fydd gwarchodwyr y Gymraeg.
Cawsom gymorth rhai o'r oedran hwn, ond mae angen mwy i greu chwyldro hirdymor ar gyfer dyfodol y Gymraeg.
'Cael colled'
Mae'r Cymry Cymraeg lleol sydd erioed wedi mentro dros drothwy'r Saith Seren wedi cael colled, ond mae'r gwahoddiad yno iddyn nhw, a nhw yn unig all benderfynu cefnogi ai peidio.
Ond fe fuaswn i yn eu hannog i gefnogi'r iaith ar ffurf ymlacio a mwynhau a chyfrannu tuag at ysbryd unigryw'r ganolfan sydd yn cael cymaint, os nad mwy, o barch fel model o ganolfan mewn ardaloedd eraill yng Nghymru.
Dylai pob tref a phentref yng Nghymru anelu at gael eu fersiwn hwy o Saith Seren yn fy marn i.
Pam meddech chi? Y cyd-weithio llawen i ddechrau, a'r agwedd agored at agor ein diwylliant i eraill, a'r gwahoddiad i mewn i helpu a rhannu doniau.
Mae gwaed newydd gwirfoddol yn gymaint o hwb. Ac os ydych am feirniadu, wel dewch yno i helpu newid y sefyllfa, ac i roi eich amser.
Mae cael man cyswllt cyntaf i'r Gymraeg ynghanol y dref, ar y stryd fel hyn yn allweddol os ydym am godi nifer y rhai sy'n hyderus i alw eu hunain yn siaradwyr Cymraeg yn y Cyfrifiad nesaf.
Mae sesiynau iaith gymunedol yn allweddol - boed yn wers ffurfiol i fyny grisiau, neu'r nos Lun anffurfiol a drefnir bellach gan y dysgwyr eu hunain yn y bar.
Dysgu Cymraeg
Mae'r dysgwyr wedi trefnu nifer o nosweithiau adloniant hefyd sydd wedi helpu'r ganolfan yn fawr. Mae eu mewnbwn yn ddiddorol ac yn ffres, ac mae'n braf gweld wynebau newydd yn cyflwyno ac yn gofalu am nosweithiau fel hyn.
Mae unrhyw arian a roddir i hybu'r iaith yn bwysig ac i'w groesawu. Rhaid blaenoriaethu yn y mannau cywir os am godi nifer y siaradwyr.
Mae'n wych fod Cymraeg yn y Gweithle yn derbyn hwb enfawr yn ardal Wrecsam, ond tybed a yw'r arian hwnnw i gyd yn mynd i'r cyfeiriad iawn?
O mhrofiad i yn dysgu rhywfaint yn y gweithle mae'n anghyson o ran llwyddiant byrdymor a hirdymor oherwydd natur fympwyol wythnos waith y gweithwyr, a'u dilyniant ysbeidiol, yn arbennig mewn grwpiau mawr.
Fedra i ddim cofio unrhyw un a ddysgais i yn y gweithle ddaeth yn siaradwyr a chyfranwyr at y gymdeithas Gymraeg ehangach wedyn, gwaetha'r modd. Er iddynt ddod o fewn trwch blewyn i fod yn rhugl, wnaethon nhw ddim mentro ar y daith wedyn efo'r iaith i fod yn rhan o ddigwyddiadau a'r gymdeithas leol.
Dyna yw nod Llywodraeth Cymru, sef i glywed Cymraeg yn naturiol ar y stryd.
I'r diben hwn mae canolfan gymdeithasol fel Saith Seren, sy'n gaffi a lle coffi a man cyfarfod yn y dydd, ac yna'n gallu troi'n fan perfformio a thafarn yn y nos, yn adnodd anhepgor i wneud i bobl fwynhau'r iaith.
Mae pobl yn mwynhau dod yma, ac mae'n cymathu dysgwyr â Chymry Cymraeg mewn sefyllfa real, ac yn ddilyniant naturiol i gynifer sydd bellach yn hyfedr yn yr ardal.
Oni ddylai'r canolfannau addysg a'r canolfannau cymunedol geisio cyd-weithio i greu cydbwysedd dysgu ffurfiol ac anffurfiol?
Mae canolfannau cymunedol fel Saith Seren hefyd yn haeddu buddsoddiant ariannol a chynllunio strategol os yw Llywodraeth Cymru am weld cynnydd yn niferoedd y siaradwyr Cymraeg yn y gymuned a'r gymdeithas yn arferol. Buddsoddiant fel y gwelwyd yng Catalunya a Gwlad y Basg.
Mae'r model o'r ganolfan yn gweithio, ac yn ddiweddar mae pobl ymhell ac agos wedi rhoi sêl eu bendith ar fodel y Saith Seren drwy dalu £10 y mis at ei barhad.
Diolch amdanynt ac ymgyrch arbennig Aran Jones ar wefan Say Something in Welsh, dolen allanol.
Fe ddylai arian cyhoeddus helpu canolfannau fel hyn hefyd yn fy marn i - ac yn wir mae arian cyhoeddus eisoes yn helpu rhai canolfannau iaith.
Felly beth am gysondeb er chwarae teg i'r holl wirfoddolwyr, a'r holl ewyllys da sydd dros yr iaith?
Cawsom fwy nag erioed o ddigwyddiadau Cymraeg yn Wrecsam yn ddiweddar - ond llwyddiant un gig fu'n talu am y nesaf. O'r llaw i'r genau fu hi.
Byddai yn braf cael cymorth ariannol fel nad ydy gwaith gwirfoddolwyr mor bryderus. Byddai arweiniad unigolyn/unigolion efo amser ar eu dwylo i helpu llywio'r ochr fusnes yn gaffaeliad mawr rwy'n siŵr.
Uchafbwyntiau
Ond fel aelod o'r Pwyllgor Adloniant a arweinir mor arbennig gan Nia Marshall Lloyd, mae 'na ddau uchafbwynt i mi. Mae'r ddau yn llwyddiannus ac yn genhadol ac yn groesawgar.
Mae VIVA VOCE y noson meic agored i lenyddiaeth a barddoniaeth yn llwyddo i genhadu efo'r iaith Gymraeg. Mae tua 30% o ddarlleniadau'r noson yn Gymraeg a 70% yn Saesneg.
Ond mae cyflwyniad y noson yn naturiol yn llithro o un iaith i'r llall, ac mae pobl yn ei dderbyn, ac yn mwynhau clywed y Gymraeg.
Mae hi bellach yn 'arferol', ond eto mae cymdeithas Wrecsam yn ei gyfanrwydd yno - y Cymry Cymraeg, y dysgwyr a'r Cymry di-Gymraeg.
Mae croeso o hyd i fwy o lenorion Cymraeg uno efo ni ar y nosweithiau meic agored. Daw beirdd lleol i lansio'u llyfrau, ac fe gawn awdur gwadd bob tro. Ar gyfartaledd fe gawn tua 12 yn darllen bob tro. Croeso cynnes i chi.
Ond yr uchafbwynt a'r wefr fwyaf i mi am dair blynedd gyntaf Saith Seren - ar wahân i weld yr holl artistiaid dawnus ar stepen y drws yn Wrecsam - ydy cyfraniad y dysgwyr lleol.
Maent wedi bod mor deyrngar ac mae eu brwdfrydedd mor atyniadol. Daw dysgwyr o'r Wyddgrug hefyd yn selog i ddigwyddiadau, ac mae eu cefnogaeth yn allweddol. Croeso i grwpiau eraill o ddysgwyr i'n digwyddiadau ni bob amser.
Teimlaf mai canolfannau fel Saith Seren fydd yn allweddol yn y dyfodol os ydy nifer y rhai sy'n siarad Cymraeg am godi. Dyma'r nod i bawb ohonom sy'n ymwneud â dyfodol yr iaith.