Bant â ni 'to te
- Cyhoeddwyd
- comments
Yn sgil digwyddiadau diweddar rwy'n teimlo'n betrusgar braidd wrth eich gwahodd i gymryd golwg bach ar yr arolygon barn!
Yn ddigon ffodus arolygon Cymru a'r Alban sydd wedi denu fy sylw ac yn wahanol i rai Lloegr roedd y rheiny yn weddol o agos ati o safbwynt canlyniad yr etholiad. Roedd polau'r Alban yn llygaid eu lle a rhai Cymru'n bur dda o safbwynt canrannau'r bleidlais er yn llai defnyddiol wrth ddarogan dosraniad y seddi.
Yn ystod yr ymgyrch etholiad y darogan ynghylch San Steffan oedd yn hawlio'r penawdau wrth reswm ond fe wnaeth y cwmnïau polio holi ynghylch etholiadau 2016 hefyd gan amlygu ambell ffactor hynod ddiddorol - yn enwedig yng nghyd-destun yr Alban.
Yma yng Nghymru mae'n ddiddorol nodi bod llawer o'r rhai a holwyd wedi gwahaniaethu rhwng etholiad San Steffan ac etholiad Cynulliad a hynny hyd yn oed ym merw'r ymgyrch Brydeinig.
Yn fras mae'r arolygon yn awgrymu bod y gefnogaeth i Blaid Cymru yn sylweddol uwch a'r gefnogaeth i'r Ceidwadwyr yn sylweddol is pan ddaw hi at etholiad Cynulliad. Gall y rheiny o fewn Plaid Cymru sy'n darogan mai yn 2016 y gwelir ffrwyth y cyhoeddusrwydd dderbyniodd Leanne Wood eleni gymryd peth cysur o'r arolygon felly.
Mae arolygon yr Alban hyd oed yn fwy diddorol gan amlygu gwendid mawr y gyfundrefn bleidleisio AMS sy'n cael ei defnyddio ar gyfer etholiadau Cymru a'r Alban.
Ffurf ar gynrychiolaeth gyfartal yw AMS ond mae modd iddi gynhyrchu canlyniadau hynod o anghyfartal mewn rhai amgylchiadau. Gallasai hynny ddigwydd yn yr Alban flwyddyn nesaf a hynny mewn modd niweidiol iawn i'r pleidiau unoliaethol.
Yn wahanol i systemau cyfrannol eraill mae AMS yn galluogi i'r etholwyr bleidleisio'n dactegol trwy ddewis gwahanol bleidiau yn yr adran etholaethol a'r adran ranbarthol. Yn Seland Newydd, er enghraifft, lle defnyddir fersiwn ychydig bach yn wahanol o AMS dyw e ddim yn anarferol i bobol pleidleisio i un o'r ddwy blaid fawr yn ras etholaethol ac i blaid lai sy'n debyg o glymbleidio a'i dewis cyntaf yn yr adran ranbarthol.
Nawr ystyriwch y sefyllfa yn yr Alban. Os ydy'r canlyniadau etholaethol yn 2016 rhywbeth yn debyg i'r hyn oedden nhw eleni fe fyddai bron yn amhosib i'r SNP ennill hyd yn oed un sedd yn yr adran ranbarthol.
Yn y fath amgylchiadau ni fyddai'n syndod pe bai nifer sylweddol o gefnogwyr yr SNP yn dewis bwrw eu pleidleisiau rhanbarthol dros un o'r pleidiau eraill sy'n cefnogi annibyniaeth - y Gwyrddion, dyweder neu'r SSP.
Mae arolwg olaf Panelbase cyn yr etholiad cyffredinol yn awgrymu'n gryf bod y ffenomen yna'n dechrau ymddangos yn barod. Yn ôl y cwmni 2% sy'n cefnogi'r Gwyrddion yn y dosbarth etholaethol. Mae'r ffigwr yna'n cynyddu i 10%, yr un canran a'r Ceidwadwyr, yn yr adran ranbarthol. Mae'r cynnydd hwnnw yn gyfan gwbwl ar draul yr SNP.
Nawr dyw e ddim yn bosib i AMS fod mor anghyfartal â system 'cyntaf i'r felin' San Steffan. O dan y gyfundrefn honno fe sicrhaodd union hanner yr etholwyr dros 90% o seddi'r Alban i'r SNP ond mae natur AMS yn ei gwneud hi'n bosib y bydd hyd at ddwy ran o dair o aelodau Holyrood yn gefnogol i annibyniaeth ar ôl yr etholiad nesaf.
Yn y fath amgylchiadau fe fyddai'n anodd iawn i unrhyw un, hyd yn oed Nicola Sturgeon, wrthsefyll galwadau am ail refferendwm annibyniaeth